A04462:27
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am hynny wedi gyrru‘r faith chwedleu ar rhain ym-mhenneu Brenhinoedd a Thwysogion, nhwythau a laddassant Brophwydi Duw heb adel i‘r un ddianc: Isaiah a farnwyd iw lad a life: Jeremiah, a cherrig: Daniel, ymhlith Llewod: Amos, a throssol hayarn: Pawl, a chleddyf: a Christ, ar y Gross: ag a fwriwyd yr holl Gristnogion i Garcharoedd; i boenau tostion;1 i Grogprennieu; iw tafiu bendra-mwnwgl i lawr o gribau creigieu, o fanneu uchel, ag o flaeneu elltydd; iw difa a‘u llarpio gan anifeiliaid gwylltion: iw llosgi; ag a wnaed dan-llwythi mowrion o dan o‘i cyrph ⟨image 12⟩byw nhwy, in unig er rhoddi golevad liw nos, ag o wir watwarwch arnynt: heb wneuthyr bri amgenach onynt, no‘g o‘r sorod gwaethaf, llysnafedd bryntaf, a phetheu gwatwargerdd yr holl fyd. Llyma (fall i gwelwch) y triniwyd in oestadol Athrawō ag addefwyr y Gwir. O herwydd pa ham, Nyni y sawl a gymerassom arnom goel a chyfaddef Efengyl Christ, a ddylem fod in hannercwynach gennym os trinijr ni ynyr un mod ā yr un achos: A‘n bod ni heddyw, fall eyn tadeu gynt, in cael eyn herlid a gogā, ymserthiaden, ag a chelwyddau: a hynny nid trwy haeddedigaeth o‘r eiddym eyn hum eithr in unig am eyn bod in adrodd ag in addef y Gwir. Y rydis in llefain in groch arnō heddiw ym hob inan eyn bod ni y gyd in Hereticiaid, ddarfod i ni ymwrthod a‘r ffydd, a thrwy goel newydd, ag athrawieth annuwiol, wahanu cytundeb yr Eglwys: eyn bod ni in dwyn drach gefn ag in adgyfodi o uffern, yr hen heresiau a farnessid ag a fwriessid er is lawyer o amser: a‘n bod ni in gossod allan *Sectae ag in have gwreichion llid a chynnennau, na chlywyd er joed o‘r faith: fod o honom eusys wedi eyn gwahan in blediau, ag in argoeliadeu, gwrthwyneb iw gilidd: a methy gennym er joed etto mewn mod in y bid gytuno in eyn mysc eyn hunain: eyn bod ni ‘n ddynion ⟨p. 4⟩melldigedig, ag fall y cowri gynt, in rhyfela in-nerbyn Duw ei hun: a‘n buchedd, heb na bri na gofal am Dduw: eyn bod in dirmygu bob gweithred dda: nad oes gennym na dysg na dawn rhinwedd, na chyfreithieu, na moesseu, ag nad ym in gwneuthyr ysturiad ā ddeddfolaeth, nag am drefn, nag am iniownder, nag ā gyfiownder: eyn bod ni‘n gyllwng yffrwyn i bob diffeithwch ag in ā nosy bobl i bob math a‘r rydid ag anlladrwydd: eyn bod ni ‘n bwriadu ag in ceisio bwrw i lawr braint llywodraethwyr a brenhinoedd, fall y gelid ymchwelyd y cwb'l dā reoledigaeth yr anwadal gyffredin a‘r gynlleidfa annyscedig: