A04462:40
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A chan nad ydynt in dwyn dim o‘r rhain drostynt eu hun, ag er hynny, nid anllai, in mynny eyn galw ni‘n Hereticiaid, y rhai ni chwympassom oddi wrth Grist, na‘r Apostolion, nar Prophwydi; y mae hyn in gam mawr ag in dost anianol.
A chan nad ydynt yn dwyn dim o‘r rhain drostynt eu hun, ag er hynny, nid anllai, yn mynny eyn galw ni‘n Hereticiaid, y rhai ni chwympassom oddi wrth Grist, na‘r Apostolion, nar Prophwydi; y mae hyn yn gam mawr ag yn dost anianol.
1Ar cleddeu hwn y tarawodd Christ heibio‘r cythrel, pan ydoedd in ceisio cael methel arno:2 Ar arfau hyn y gorfydd gwthio i lawr a gwrth-lad pob goruchder a‘i derchafo ei hun in-nerbyn Duw. Canys Yr holl Scrythur (medd Pawl Apostol) sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, 3ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddu, i gospi, ag i addyscu, fall y byddo din Duw in berffaith wedi ei gymhwysso i bob gweithred dda. Felly ‘n oestadol yr ymladdodd y Tadeu duwiol in-nerbyn Hereticiaid, nid trwy nerth arall na‘g amgenach no‘r Scrythurau glan.4 Pan ddadlevodd Saint Awstin in-nerbyn Petilianus yr Heretic o‘r Donatistiaid: Na ad glywed (hebr ef) rhyngom-mi y geirieu ymma: Fall hyn rydwyfi ‘n doedyd, neu rwyd ti ‘n doedyd; Eithr doettom, fall hyn y mae‘r Arglwydd in doedyd; Gedwch i ni geisio ‘r Eglwys in y man hwnnw, ag yno ymddadleuwn eyn hachos.
1Ar cleddeu hwn y tarawodd Crist heibio‘r cythrel, pan ydoedd yn ceisio cael methel arno:2 Ar arfau hyn y gorfydd gwthio i lawr a gwrth-ladd pob goruchder a‘i derchafo ei hun yn-nerbyn Duw. Canys Yr holl Scrythur (medd Pawl Apostol) sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw,