A04462:36
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag er na bu hid heddyw hamdden na seibiant gan Babau Rhufain i fanwl-ysturio ag i astud-feddylio am y petheu hyn, Never bod yrowron ryw ofalion eraill in llestair uddynt neu ‘n gwascu arnynt: neu eu bod nhwy ‘n tybied may di-ystur ag anghyfaddas ydyw i radd a goruchafiaeth y Pab fyfyrio ‘r faith fan betheu cyffredinol: etto nid yw hynny resswm pa ham y dyle ‘n hachos ni gael tybied in waeth o honaw. Neu os nhwy ysgatfydd ni fynnant welled y peth y maent in ei gwbl ganfod namyn gwrthwynebu ‘r Gwirionedd amlwg a ddylaem mi am hynny gael eyn gadel a‘n galw in Hereticiad, o ran nad ydym in rhyngy bodd ag in ymvfuddhau iw hewyllys nhwy?1 Pe buasse ‘r Pab Pius, yr un o‘r ddau, na‘r faith un ag y mae efe mor ddirfawr in chwennychu ei gyfrif, na‘r faith un chwaith a‘n cymerasse ni fall ei frodyr, neu or hyn lleiaf fall dynion, ef a wrā dowsai ag a fynnasse holy eyn haddefod a‘n hattebion, beth yr oeddym i‘n ei ddoedyd, a pheth a ellid ei ddoedyd in eyn herbyn, ag ⟨p. 8⟩nid mor ehud trwy gam dyb, barnu a bwrw in evog (in ei lythyr o escymundod dan lun Cymanfa-Gyngor) y rhan fwyaf o‘r bid, cynnifer o ddynion dysgedig Duwiol, cynnifer o lywodraethau-cyffredin, o frenhinoedd, o Dwysogion, a hynny heb wrando ‘n hachos, na gwybod pa ham. And gan iddo fall hyn eyn gwneuthyr in hynod i‘r bid, rhag eyn cymryd in evog os tewi a wnawn, ag in enwedig gan na chawn er mod in y bid gael eyn gwrando mewn cymanfa-Gyngor gyffredin, lle ni fin y Pab fod in rhydd i neb byw gael adrodd ei feddwl, eithr i‘r rhai a dyngant ag a‘m rwymant ar gadw ei oruchafiaeth ef: o‘r hyn beth ni a gowssom ormod hysbyssrwydd oddi wrth y cymanfa-Gyngor diwaethaf a gynhaliwyd in-rhef Tridentum, lle y caewyd allan o‘r Gymanfa, Gennadeu-urddol a Difinyddiaid y Twysogion a‘r Dinassoedd rhyddion o Germania: Ni allwn i y chwaith etto ollwng dross gof ddarfod i Julius y trydydd Pab o‘r henw, er is mwy no Dengmylynedd, wahardd mewn scrifen arbennig, in-anad dim, na chae neb o‘n ffydd ni ei wrando in y Cymanfa-Gyngor, oddieithr ryw faith din ysgatfydd a‘madawe ag a ddat-droe oddi wrth ei grefydd.
Ag er na bu hyd heddyw hamdden na seibiant gan Babau Rhufain i fanwl-ysturio ag i astud-feddylio am y petheu hyn, Neu er bod yrowron ryw ofalion eraill yn llestair vddynt neu ‘n gwascu arnynt: neu eu bod nhwy ‘n tybied may di-ystur ag anghyfaddas ydyw i radd a goruchafiaeth y Pab fyfyrio ‘r fath fan betheu cyffredinol: etto nid yw hynny resswm pa ham y dyle ‘n hachos ni gael tybied yn waeth o honaw. Neu os nhwy ysgatfydd ni fynnant weled y peth y maent yn ei gwbl ganfod namyn gwrthwynebu ‘r Gwirionedd amlwg a ddylaem mi am hynny gael eyn gadel a‘n galw yn Hereticiad, o ran nad ydym yn rhyngy bodd ag yn ymvfuddhau iw hewyllys nhwy?