A04462:39
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Di-ammeu, oddieithr iddo gwbl gallettau ei gallon, ag na fin ef wrando, ni bid edifar gantho ddal sylw ar eyn hamddyffyniad ni, a chraffu pa faith beth yr ym-mi ‘n ei adrodd, a chymhwysed ydyw i‘r Grefydd ⟨image 18⟩Gristnogawl. Canys lle y maent i‘n galw‘n Hereticiaid, y mae hynny‘n fai mor gas ag mor erchyll, fall onis gwelir ef in amlwg, oni ellir ei deimlo a dwylo, a‘i glywed dan fyssedd (in ei herwydd,) ni ddylid hawdd goelio mo‘naw ar Gristion in y bid. Herwydd Heresi ydyw ym-wrthod ag Jechydwriaeth, bwrw ymaeth Rhad Duw, ag ymadel a chorph ag âg yspryd Christ. Eithr hyn ydoedd in oestadol arferedig a chymeradwy genthyn-nhwy a‘u plaid, o bae i neb achwyn neu feio ar eu hamryfyssedd nhwy, a damuno dad-ymchwelyd at jawn Grefydd, nhwytheu‘n ebrwydd a farnent ag a fwrient y rheini in Hereticiaid, ag in ddynion blin cyffrous. Canys nid am achos arall in y bid y galwyd Christ ei hun in Samaritan, eithr am dybied ei fod ef wedi methlu mewn ffydd newydd, a Heresi. A Phawl Apostol Christ, a alwyd i farnedigaeth, i atteb am Heresi: 1Myfi (hebr ynte) ynol y ford y maen-nhwy‘n ei galw in Heresi ydwyf in addoli Duw fy-nhadeu, gan gredu yr holl bethau ar y sydd scrifennedig in y Gyfraith a‘r Prophwydi. Ar fyrro eirieu, yr holl grefydd y mae cristnogion heddyw in ei haddef,2 a alwyd gynt gan yr anghredediniaid in Sect ag in Heresi. Ar faith lysenweu ⟨p. 10⟩a‘rheini, y llenwent glustieu Twysogion, megis pan ddaroedd iddynt hwytheu drwy gam-gymeriad o‘r blaen eyn cassau ni, a thybied nad oedd beth bynnag a ddoetem, ddim amgen no chynnwrf ag Heresi; y camarwenid nhwy fall na chaent wybod yr achos na dealld y gwirionedd. Eithr gā mor erchyll a gwrthyn ydyw cyneddf Heresi, gan hynny y dylid ei brofi drwy resymmeu cryfach ag eglurach, ag in enwedig y pride ymma, wedi dechreu o ddynion roi lay coel ar a ddoetont hwy, a chwilio‘n fanylach eu hathrawiaeth nhwy, nag a oeddynt arferedig. Canys mae lawyer o ragor rhwng dysceidiaeth Pob'l Dduw yrowron, ag ydoedd o‘r blaen pan oeddid in cymryd beth bynnag a ddoette‘r Pab fall Efengyl, a‘r holl grefydd in cwbl-orphwys ar awdurdod Pâb Rhufain. Y mae heddyw ar led yr Scrythureu glan, ac scrifennadeu‘r Apostolion a‘r prophwydi, drwy‘rhai y gellir profi pob gwirionedd ag athrawiaeth gatholic, a gorchfygu pob Heresi.