A04462:26
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A phwy ni wyr beth a ddoetpwyd gynt am Saint Pawl (ydoedd owchysaf bregaethwr a diball gynhaliwr yGwir) fod honaw weithieu in din blin cyffrous in codi terfysg, ag in gwneuthyr gwrth-ryfel; weithieu ei fod ef in Heretic: 1weithieu […] ynfyd: ag withieu eraill o wir gynnen a chyndynrwydd in cablu cyfraith Dduw ag in dirmygu deddfau yr hen dadeu? Hefyd, pwy ni wyr pa fodd y gwnaethpwyd a S. Stephan yr hwn pan ddaroedd iddo a lawn ag a llawen enaid gofleidio‘r Gwirionedd, a dechre onaw ef, fall y dyle, ei bregethu in hy-lwyb‘r ai ossod allā in ddihafarch, ef a alwyd in y ⟨image 11⟩fau i gymeryd barn am ei hoedl, megis un a ddoedasse Drawsder a thraha in-nerbyn y Gyfraith, in-nerbyn Moses, ynerbyn y Dem‘l, ag in-nerbyn Duw? Neu pwy nis gwyr fod rhai in yr amseroedd gynt a roent ogan, gan ddoedyd fod offered in y Scrythur lan,2 a‘i bod in cynnwys petheu amlwg amrafaelus ag yngwrthwyneb eu gilidd:3 A bod Apostolion Christ bob un in ymrysson ar llall, a Phawl in anghymmod a nhwy i gyd? Ag er nad adroddom y cwbl (herwydd hynny fydde anniben) pwy ni wyr pa wawd a gwradwydd a wnaed am ben eyn teidiau ni yrhai a ddechrevassant gyntaf gyd-addef a chymeryd arnynt enw Christ gan haeru arnynt gydfwriadu wrthynt-eu hunain,4 ag ymgynghori in ddirgel in-nerbyn stad y deyrnas, ag o ran hynny eu bod nhwy in mynych-gyfarfod cyn lliw did in y tywyllwch i lad plant jevaingc, i ymlenwi a chig dynnion, ar dull anifeiliaidd i yfed eu gwaed: In y diwedd, fod eu harfer o ddiffodi‘r canhwylleu a gwneuthyr godineb in eu mysc eu hunain *a gwarthus aflendid y nail ar llall, brodyr in gorwedd gida‘u chwiorydd, meibion gida‘u mammeu, heb perchu gwaed na charennydd, heb genthyn ddim math ar grefydd, na dim ⟨p. 3⟩meddwl am Dduw, cas elynion rhywiogaeth din; na ddylent gael gweled goleu'r did, na ddylent gael byw in y bid? yr holl gamweddau hyn a haerwyd gynt ar dylwyth Dduw, ar Grist Jesus, ar Bawl Apostol, ar Stephan, ar bawb o‘r sawl bynna‘g in y derhrevad a dderbyniassent wirionedd yr Efengyl, ag oeddynt fodlon adel eu henwi 'n Gristnogion,