A04462:42
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag medd Hieronimus, y mae cleddyf gair Duw in torri ‘r holl bethau yr ydis heb destiolaeth yr Scruth‘r lan in teuru eu traddodi gan yr Apostolion.
Ag medd Hieronimus, y mae cleddyf gair Duw yn torri ‘r holl bethau yr ydis heb destiolaeth yr Scruth‘r lan yn teuru eu traddodi gan yr Apostolion.
Saint Ambrosius hefyd a ddoedodd wrth Gratianus yr Ymerodr: Gofynner (ebb ef) i'r Scrythurau glan: Gofynner i‘r Apostolion: ⟨p. 11⟩Gofynner i‘r Prophwydi: Gofynner i Grist: Nid oedd ammeu ‘r pride hynny gan yr hen Dadeu a‘r Escobion catholic allu cwbl brofi eyn crefydd ni oddi fewn y Scrythurau glan. Ag er joed nid oeddynt in beiddio barnu neb in Heretic, a‘r ni allent argyoeddu ei amryfyssedd drwy rim yr un-rhyw Scrythureu glan; a hynny ‘n ddigon hynod ag in amlwg.
Sainct Ambrosius hefyd a ddoedodd wrth Gratianus yr Ymerodr: Gofynner (eb ef) i'r Scrythurau glan: Gofynner i‘r Apostolion: ⟨p. 11⟩Gofynner i‘r Prophwydi: Gofynner i Grist: Nid oedd ammeu ‘r pryd hynny gan yr hen Dadeu a‘r Escobion catholic allu cwbl brofi eyn crefydd ni oddi fewn y Scrythurau glan. Ag er ioed nid oeddynt yn beiddio barnu neb yn Heretic, a‘r ni allēt argyoeddu ei amryfyssedd drwy rym yr un-rhyw Scrythureu glan; a hynny ‘n ddigon hynod ag yn amlwg.
Nyni a'ttebwn fall y gwnaeth Saint Pawl;1 ynol y ford y maent hwy‘n ei galw‘n Heresi yr ydym-mi‘n addoli Duw Tad eyn harglwydd Jesus Grist, ag in cofleidio‘r holl betheu sydd scrifennedig, pan bynnag ai in y ddeddf, ai in y Prophwydi, ynte in llyfreu‘r Apostolion. Am hynny od ydym-mi Hereticiaid, od ydynt hwytheu (megis y mynnant eu galw) Gatholiciaid, pa ham nad ydynt in cymeryd yr un llwyb'r ag a ddarfu i‘r Catholic Dadeu ei gymeryd? Pa ham nad ydynt in gorchfygu eyn hathrawiaeth ni Drwy nerth y Scrythureu glan? Pa ham nad ydynt in eyn galw drach-gefn i‘n holy wrth y rheini? Pa ham nad ydynt in dangos ddarfod i ni ymwrthod a Christ, a‘r Prophwydi, a‘r Apostolion, ag a‘r Tadeu Sanctaidd? Pam y maent in oedi gwneuthyr hyn? Pam y maent in rhusso? Duw