A04462:55
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Hyn meddwn-ni yw dealld yr agoriadeu, ag in y mod hyn y mae cau neu agoryd cydwybodeu dynion. Cyfaddeu‘r ydym mae‘r offeiriad sydd farnwr in yr achos hwn: eithr etto er hynny, nad dyledus iddo (fall y dywed Saint Ambros) roi hawl a‘r oruchafiaeth ag awdurdod fall pet in eiddo ef:1 Ag am hynny y rhodd Christ sen i‘r Scrifenyddion a‘r Pharisaeaid Iddewaidd 2(o herwydd eu esceulustra hwy‘n dyscu‘r bobl) Gwae chwi (hebr ef) Scrifenyddion a Pharisaeaid y rhai addygasoch ⟨p. 10⟩ymaeth agoriadeu‘r gwybodaeth ag a gavasoch Deyrnas Nefoedd o flaen dynion. 3Achan nad yw‘r agoriad, a‘r hwn yr agorir i ni ford i deyrnas Dduw ddim amgen onid gair yr Efengyl a dehenglad y Gyfraith a‘r Scrythur au glan; doedyd y rydym, in ddifadde, lle ni bo‘r gair hwn▪ nad oes yno mor agoriad y chwaith. A chan na roddwyd and gair o‘r un faith i bawb, ag nad oes and un unig agoriad in perthyn i bawb, Nid oes hefyd meddwn-ni onid un unig allu i bawb o‘r gwenidogion i gau ag i agoryd. Am Bâb Rhufain, er bod ei ragrithwyr in atcanu iddo in wenieuthus y geiriau hyn,4 Mi a roddaf i ti agoriadeu teyrnas Nefoedd, (fall pe na bae gyfaddas y geirieu hynny o‘r Efengyl i neb byw arall and i‘r Pab ei hun,) doedyd y rydym, oni phair ef i gydwyboden dynion ddarostwng in ystwyth i air Duw; nad ydyw ef nag in agorud, nag in cau, ag nad perchē yr agoriadeu mo‘naw. A phe rhoem ei fod in dyscu ag in hyfforddi‘r bobl, (yr hwn beth ni a fynnem pes gwnai ef o‘r diwedd in ddihocced: neu pe bae wiw gantho feddwl unwaith fod hynny in ddyledus arno, ag in darn oi swydd:) Etto er hynny, nid ydyw meddwn-ni, ei agoriad ef nag in well, nag in hyttrach, nog agoriadeu ⟨image 26⟩rhai eraill. Herwydd pwy a wnaeth ragor rhyngtho ef ar lleill? Pwy a ddyscodd iddo ef agoryd in gyfrwyddach, neu ryddhau in well, nog eraill o‘i frodyr. Doedyd y rydym mae sanctaidd ag anrhydeddus yw Priodas ymhob rhyw, a math ar ddynion, self, in y Patrieirch, in y Prophwydi, in yr Apostolion, in y Merthyron, yngwenidogion yr Eglwys, ag in yr Escobion.