A04462:51
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Doedyd yr ydym, may dyledus yw drwy alwedigaeth ddeddfol a gweddus drefn, gyfleu Gweinidog i lywodraethu Eglwys Dduw, ag na ddychyn neb frathu i mewn i‘r gyssegr wenidogaeth, wrth ei amcan a‘i ⟨image 24⟩drachwant ei hun: ag o ran hynny, mwy o lawyer yw‘r cam ymaen-nhwy in ei wneuthyr a ninny, gan na thawant a doedyd nad ydis in gwneuthyr dim in eyn plith ni mewn trefn, na gweddeidd-dra, eithr pob peth in amhwyllys ag in bendra-mwnwgl: a bod in gymeradwy gennym-mi adel i bob math ar din fod in offeiriad, fod in Athro, fod in ddihenglydd yr Scrythur lan.
Doedyd yr ydym, may dyledus yw drwy alwedigaeth ddeddfol a gweddus drefn, gyfleu Gweinidog i lywodraethu Eglwys Dduw, ag na ddychyn neb frathu i mewn i‘r gyssegr wenidogaeth, wrth ei amcan a‘i ⟨image 24⟩drachwant ei hun: ag o ran hynny, mwy o lawer yw‘r cam ymaen-nhwy yn ei wneuthyr a nyni, gan na thawant a doedyd nad ydis yn gwneuthyr dim yn eyn plith ni mewn trefn, na gweddeidd-dra, eithr pob peth yn amhwyllys ag yn bendra-mwnwgl: a bod yn gymeradwy gennym-mi adel i bob math ar ddyn fod yn offeiriad, fod yn Athro, fod yn ddihenglydd yr Scrythur lan.
A doedyd ymhellach yr ym, rhoddi o Grist iw wenidogion gwb‘l allu i rwymo, i ryddhau, i gau, ag agoryd: Ag nad yw‘r swydd i Ryddhau ddim amgen, onid ynaill ai cynnig o‘r gweinidog (drwy bregaeth yr Efengyl) haeddedigaetheu Christ, a gollyngdod o‘u pechodeu, ir sawl a fo gostyngedig eu calonneu mewn gwir edifeirwch; gan draethu iddynt ddiau faddevant a gobaeth Jechyd tragwyddol: ai ynte, enill o‘r gweinidog drachefn, a dwyn adref a dad-roddi i fewn teulu ag undod y rhai ffyddlon, y sawl ydifarhaus a anfodlonassant galonneu eu brodyr drwy gamwedd hynod a chyhoeddys, wedi iddynt ym-neullduo am hynny, ag ymddieithro (in ei herwydd) oddi wrth cyffredin gymdeithas yr Eglwys, a chorph Christ.
A doedyd ymhellach yr ym, rhoddi o Grist iw wenidogion gwb‘l allu i rwymo, i ryddhau, i gau, ag agoryd: Ag nad yw‘r swydd i Ryddhau ddim amgen, onid ynaill ai cynnig o‘r gweinidog (drwy bregaeth yr Efengyl) haeddedigaetheu Crist, a gollyngdod o‘u pechodeu, ir sawl a fo gostyngedig eu calonneu mewn gwir edifeirwch; gan draethu iddynt ddiau faddeuant a gobaeth Iechyd tragwyddol: ai ynte, enill o‘r gweinidog drachefn, a dwyn adref a dad-roddi i fewn teulu ag vndod y rhai ffyddlon, y sawl ydifarhaus a anfodlonassant galonneu eu brodyr drwy gamwedd hynod a chyhoeddys, wedi iddynt ym-neullduo am hynny, ag ymddieithro (yn ei herwydd) oddi wrth cyffredin gymdeithas yr Eglwys, a chorph Crist.