A04462:59
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr cydnabod a chyfadde‘rydym ddau Sacrament, y rhai in eyn barn ni a ddylent gael en galw wrth yr henw priodol hwnnw, self, Sacrament y Bedydd, a‘r llall a elwir Swpper yr Arglwydd. Y cynnifer hyn o Sarcamenteu a welwn wedi eu rhoddi au cyssegru gan Grist; ag oeddynt gymeradwy hefyd gan Ambros ag Awstin yr hen Dadeu. Y Bedydd, meddwn-ni, sydd Sacrament, o ollyngddd pechodeu, ag o‘r ymolchiad sydd eiddom yngwaed Christ. Oddi wrth yr hwn Sacrament, ni ddylid gwahardd neb a sin gymeryd arno henw Christ; in gymaint ag nad rhydd gwahardd plant jefainc y cristnogion, er ⟨image 28⟩mwyn eu geni mewn pechod, a‘u bod in deuryd i dylwyth Dduw.
Eithr cydnabod a chyfadde‘rydym ddau Sacrament, y rhai yn eyn barn ni a ddylent gael en galw wrth yr henw priodol hwnnw, sef, Sacrament y Bedydd, a‘r llall a elwir Swpper yr Arglwydd. Y cynnifer hyn o Sarcamenteu a welwn wedi eu rhoddi au cyssegru gan Grist; ag oeddynt gymeradwy hefyd gan Ambros ag Awstin yr hen Dadeu. Y Bedydd, meddwn-ni, sydd Sacrament, o ollyngddd pechodeu, ag o‘r ymolchiad sydd eiddom yngwaed Crist. Oddi wrth yr hwn Sacrament, ni ddylid gwahardd neb a fynne gymeryd arno henw Crist; yn gymaint ag nad rhydd gwahardd plant iefainc y cristnogion, er ⟨image 28⟩mwyn eu geni mewn pechod, a‘u bod yn deuryd i dylwyth Dduw.
Doedyd y rydym fod Swpper yr Arglwydd in Sacrament, fief, in arwydd neu wystyl hynod corph a gwaed Christ: in yr hyn rydys in rhoi fegis geyrbron eyn llygeid marfolaeth ag adgyfodiad Christ, a pheth bynnag a wnaeth ef in ei gnawdoliaeth: fall y rhoddem ddioleh herwydd ei farfolaeth ef, a‘n gwarediad ni. Ag felly y gallem wrth fynnych arfer y Sacramenteu, adnewyddu beunydd coffaedigaeth am hyn: fall y gallem hefyd gael eyn porthi a chorph ag a gwaed Christ i obaith yr adgyfodiad, ag i fywyd tragwyddol, gan fod in gwbl-ddiau gennym may‘r un peth i borthi eyn heneidieu yw corph a gwaed Christ, ag ydyw‘r bara a‘r gwin i borthi‘n cyrph. Ir wledd hon in eyn barn ni y dylid gwahadd pobl Dduw fall y gallent bawb fod in gyfrannogion in eu mysc eu hun gan amlwg ddangos a thestiolaethu y gobaeth a‘r gymdeithas sydd genthynt bawb gida‘i gilidd ing-Hrist Jesus. Ag am hynny o bae neb a fynneu ddim onid edrych ar y cymmun sanctaidd heb fod in gyfrannog o honaw: hwnnw a gae‘i escymuno gan yr hen dadeu ag Escobion Rhufain in y brif-Eglwys,