A04462:61
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y Bara a‘r Gwin hwnnw (meddwn-ni) ydynt sancteiddiol a Nefol ddirgeledigaetheu corph a gwaed Christ, ag rydis in y Sacrament hwn, in rhoddi i ni Grist ei hum yr hwn sydd wir fara y bywyd tragwyddol, yr hwn rydis in ei roi i ni mor gwbl, ag mor gyflawn, ag nad oes dim wirach na bod o honom in cymeryd ei wir gorph ai waed ef drwy ffydd. Nid ydym y chwaith in doedyd hyn, fegis pettem in tybied ddarfod cwbl newidio a di-ddimio rhywiogaeth y bara, ar gwin; fall y darfu i lawyer freuddwydio‘n yr oesoedd diwaetha hyn, heb fedru onynt er joed etto gyttuno rhyngthynt eu hun ynghylch y breuddwyd hwn. Ag nid hynny oedd feddwl Christ, fwrw o‘r bara gwenith ymmaeth ei rywiogaeth ei hun, a chymeryd math ar dduwiolaeth newydd: eithr in hyttrach, fall y gall ef eyn newid ni, a‘n tros-lunio iw gorph ei hun,1 fegis y dywed. Theophilactus. Beth a ellir ei ddoedyd in hynodach nog a draethodd Ambros, 2self, Fod y bara a‘r gwin yr un faith ag a oeddynt o‘r blaen, ag er hynny eu bôd hwy wedi newidio i beth arall: Neu y peth a ddoedodd Gelasius, Nid yw sylwedd y bara, a rhywiogaeth y gwin in peidio, 3neu‘n diflannu: Neu y peth a ddoedodd Theodoretus: Ar ôl sancteiddio‘r ⟨p. 14⟩Arwyddion dirgeledig, nid ydynt in bwrw ymmaeth eu rhywiogaeth eu hunain: (Herwydd aros y maent in y sylwedd, llun, a‘r rhyw, oedd genthynt o‘r blaen.) Neu, y peth a deoedodd Awstin: Bara, ar caregl, 4yw‘r peth a welwch, a hyn y mae‘r llygeid in dangos: eithr y peth a fin eych ffydd chwi ei ddyscu, yw hyn: may corph Christ ydiw‘r Bara, a‘i waed ef ydiw‘r caregl. Neu‘r peth a ddoedodd Origenes, Y Bara yr hwn rydis in ei sancteiddio drwy air Duw, tu-ag-at am ddeunydd bara, 5mined i‘r boll y mae ef, ag fo‘i brwyir allan i‘r dommen: Neu‘r peth a ddoedodd Christ, nid in unig cyn cyssegru‘r caregl,6 eithr wedi‘r cummun: Nid yfaf and hynny o‘r ffrwyth ymma o‘r winwdden. Hawdd yw gwybod ynte, may gwin, ag nid gwaed ydyw ffrwyth y winwdden. Ag wrth ddoedyd hyn, nid ydym-mi in di-ysturu Swpper yr Arglwydd, neu‘n dyscu i eraill nad yw‘r Sacrament hwn amgen no çeremoni oerllyd heb lesaad ynthi, fall y mae lawyer in camheuru arnom. Herwydd doedyd y rydym may diau, a gwir jawn ydyw, fod Christ in ei roi ei hunan ini in ei Sacramenteu: self, in y Bedydd, fall y gallom ei wisco ef amdanom: ag in y Swpper, fall y gallom drwy ffydd ag ysprydoliaeth ei fwyta ef, a chael