A04462:48
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Credu yr ym iddo farw o‘n plegid ni, ai gladdu: mind o honaw ef i wared i uffern: iddo ddychwelyd i fywyd gan adgyfodi y trydydd did: agar ol deugain niwrnod ddarfod iddo yngwydd ei ddyscyblion ymdderchafu ⟨p. 13⟩ir Nef, er cyflowni pob peth: ddarfod hefyd iddo ef gyfleu mewn mowredd a gogoniant y corph hwnnw,1 in yr hwn y ganwyd ef, in yr hwn y cyniwerodd a dynion, in yr hwn y gwatwarwyd ef, in yr hwn y, dioddefodd boenau o‘r tostaf a chreulonaf angeu, in yr hwn yr adgyfododd, in yr hwn i‘r ymdderchafodd at ddeheulaw‘r Tad, goruwch pob Penrheithiad, a Gallu, a Nerth, ag Arglwyddiaeth. a goruwch pob henw a henwer nid in unig in y bid ymma, eithr in y bid a ddaw: May yno y mae in eistedd, ag yr eistedd ef nes gorphen pob peth.2 Ag er bod mowredd a Duwdod Christ in wascaredig ymhob man, etto fod in rhaid (fall y dywed Saint Awstin) iw gorph ef fod mewn un lle: ag er rhoddi o Grist fowredd iw gorph,3 etto na ddygodd o ddiarno Naturiaeth corph:4 na ddylem-mi felly ddoedyd may Duw yw Christ, fell y gwadem may din yw. Ag fall y docdodd y Merthyr Vigilius, 5ddarfod i Grist ymadel a ni, o ran ei gnawdoliaeth, eithr nad ymadawodd ddim a ninny herwydd ei dduwiolaeth: Ag er ei fod ef ymhell oddi wrthym megis y mae ef din,6 Etto ei fod ef in oestadol gida ni megis y mae ef Dduw. Or man hwnnw credu yr ym y daw Christ drach-gefn i wneuthyr ⟨image 22⟩y farn gyffredin, in gystal ar y sawl a gaffo ef in fyw in ei cyrph, agar y rhai meirw. Yr ydym in credu in yr Yspryd glan, yr hwn ydyw‘r trydydd in y gyssegrlan Drindod: ei fod ef in wir Dduw, in ddi-wneuthyredig, in ddi-greaddedig, in ddi-genedledig eith‘r in deilliaw oddiwrth bob un or ddau, self y Tad, a‘r Mab, mewn mod na fedr dynion na‘i wybod na‘i adrodd. May ei gyneddf ef, ydyw meddalhau caledrwydd calon din pan dderbynier efe i ddwyfronneu dynion, ynaill ai trwy jachus bregaeth yr Efengyl, ai ynte drwy ba agwedd bynnag arall: ei fod ef in eu golevo ag in eu cyfrwyddo nhwy i wybodaeth Duw, gan eu cwbl harwain i bob ford gwirionedd, i newydd-dod holl fuchedd, ag i dragwyddol obaeth Jechydwriaeth. Credu‘r ydym fod un Eglwys Dduw, ag nad yw honno, megis gynt, ymhlith yr Iddewon wedi ei chau a‘i chilfachu mewn un gongl neu deyrnas, eithr ei bod in Gatholic, ag in gyffredin, wedi ei gwasgaru trwy‘r holl fyd: megis nad oes achos i Genhedlaeth in y bid gwyno‘r owron eu bod nhwy wedi eu cau allan heb allu perthynu i Eglwys ag i dylwyth Dduw: