A04462:67
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nid oes gennym Gyfryngwr na Gweddiwr arall drwy‘r hwn y down at Dduw, onid Jesus Grist; in enw‘r hwn in unig, mae‘i Dad ef in canniattau pob peth. Eithr peth cywilyddus, a lawn o anghrediniaeth ydyw‘r hyn sy gyffredinol ym hob man, in Eglwysi eyn gwrthwynebwyr, finny onynt gael rhyfedi anneirif o Seinteiu i weddio drost in, a hynny‘n ollawl heb awdurdod gair Duw, a bod fall y doedodd y Prophwyd Jeremiah, 1cynnifer o Seintieu ag sydd o ddinassoedd, neu y chwaneg; a‘r bobl (druain gwerin) ni wyddant pa‘r Saint ore iddynt ymgais ag ef. A hefyd, er bod cymaint nifer o Seintieu na ellir mo‘u rhifo, Etto‘r gwyr hyn a ossodassant goppinod o ddyledus gamp, a chyfaddas swydd pob un onynt, nid amgen no pheth a ddyle‘r Seintieu ei geisio ar law Duw, a pheth addylent ei roddi, a‘i gwplau, o‘u gwaith ei hun.2 Heblaw hyn y gyd galw y maent (nid in unig in annuwiol, eithr in ddigwilidd) ar fair forwyn mam Christ, gan erchi iddi goffau ei bod hi‘n fam, a bod in ⟨image 33⟩gymmessur iddi orchymmyn ei mab a chymeryd erni allu ag awdurdod Mam ar ei thifedd.
Nid oes gennym Gyfryngwr na Gweddiwr arall drwy‘r hwn y down at Dduw, onid Iesu Grist; yn enw‘r hwn yn vnig, mae‘i Dad ef yn canniattau pob peth. Eithr peth cywilyddus, a llawn o anghrediniaeth ydyw‘r hyn sy gyffredinol ym hob man, yn Eglwysi eyn gwrthwynebwyr, fynny onynt gael rhyfedi anneirif o Seinteiu i weddio drost yn, a hynny‘n ollawl heb awdurdod gair Duw, a bod fal y doedodd y Prophwyd Hieremias, 1cynnifer o Seintieu ag sydd o ddinassoedd, neu y chwaneg; a‘r bobl (druain gwerin) ni wyddant pa‘r Saint ore iddynt ymgais ag ef. A hefyd, er bod cymaint nifer o Seintieu na ellir mo‘u rhifo, Etto‘r gwyr hyn a ossodassant goppinod o ddyledus gamp, a chyfaddas swydd pob vn onynt, nid amgen no pheth a ddyle‘r Seintieu ei geisio ar law Duw, a pheth addylent ei roddi, a‘i gwplau, o‘u gwaith ei hun.2 Heblaw hyn y gyd galw y maent (nid yn vnig yn annuwiol, eithr yn ddigwilidd) ar fair forwyn mam Crist, gan erchi iddi goffau ei bod hi‘n fam, a bod yn ⟨image 33⟩