A04462:80
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nhwy a ddylent goffa hefyd; fod rhai o‘u plaid nhwy hunain in doedyd fod corph Naturiol Christ in Swpper yr Arglwydd; drach-gefn,1 y mae rhai eraill onynt o‘r un blaid in doedyd y gwrthwyneb:2 Mae rhai onynt in doedyd eyn bod ni‘n dryllio ag in briwo a‘n damned gorph ⟨image 39⟩Christ in y Cummun cyssegredig:3 yr hwn beth mae rhai eraill o‘r un blaid in ei wadu; Mae rhai onynt in scrifenny fod corph Christ Quantum in Eucharista, fief, fod ei gwbl faintioli ef in y Sacrament; a rhai eraill o honynt in doedyd nad yw. Mae rhai in doedyd ddarfod i Grist gyssegru drwy nerth ei allu Duwiol:4 eraill o honynt in doedyd gyssegru ono-fo drwy fendithio: rhai‘n doedyd may drwy nerth pum gair detholedig; ag eraill o honynt, may drwy ddoedyd eilwaith y pum gair hynny, y cysegrodd ef. Mae rhai o honynt in tybied may‘n y pum gair hynny, Hoc, (y rhagenw-dangos) oedd in arwyddoccau y bara gwenith; ag eraill in well genthynt goelio fod Christ in meddwl, in hynny, ryw individuum vagum; (fall y galwant hwy‘r peth:) Mae rhai o honynt in doedyd y dichyn cwn, a llygod, wir-fwytta corph Christ: 5eraill in gwadu hynny‘n sith jawn. Mae rhai eraill in doedyd y dichyn lliw, a llun, a hid, a led y bara, a‘r gwin borthi:6 a rhai in doedyd fod sylwedd y bara, in ymchwel drachgefn. Pa raid son ychwaneg? Rhyhir a gormod poen fydde coffa a chyfri pob peth, rhag mor amheuys ag ymrafaelgar hid in hyn o amser yw dull holl crefydd y gwyr hyn in eu plith ⟨p. 31⟩eu hunain, lle y cad y crefydd hwn faeth a dechrevad. Antur iddynt a chytuno un amser, in eu mysc eu hun, oddieithr ysgatfydd fall y Pharisaeaid ar Saduçaeaid: neu fall Herod, a Philat, in-nerbyn Christ. Goreu peth fydde iddynt wneuthyr heddwch in eu plith eu hun gartref. Ag in wir Dduw, nid oes ddim-harddach a gweddusach i grefydd, nog undeb a chyttynniad. Etto nid yw hyn nod addas, di-amhevol, o Eglwys Dduw: Canys cytundeb mawr oedd ym-mysc y sawl a addolodd y lo euraid; ag ym-mysc y rhai a gyd-lefasant in groch in erbyn eyn prynwr Jesus Grist, Cross-hoelia ef. Agni ddylem-mi dybied oblegid bod amrafaelion y-mysc y Corinthiaid, neu ddigwyddo peth anghydfod rhwng Pedr a Phawl, neu fod ymrysson rhwng Barnabas a Phawl, never mwyn nad oedd y Cristnogion in medry cytuno pawb a‘i gilydd, ynghylch rhyw beth, wrth ddechrevad yr Efengyl, may am hynny nad oedd Eglwys Dduw in eu plith nhwy? Tu-ag-at am y rhai y maen-hwy o wir gas in eu galw in Zuingliaid ag in Lutheranaid;