A04462:93
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr o Dduw tragwydddol! wrth hynny ynte, a gyhudda Pab Rhufain ninny o drauturiaeth? A disc ef ir bobl ymufuddhau a rhyngy bodd iw Pennaethieid? Neu, yw ef in gwneuthyr bri in y bid am fraint a mowredd Twysogion?1 Pa ham y mae ynte (y peth ni wnai yr un o hen Escobion Rhufain gynt) in gadel iw wenieithyddion ei alw ef in Arglwydd yr Arglwyddi, fegis mynny ono-fo i‘r holl frenhinoedd a‘r Twysogion pwy bynnag ydynt, a ph‘le bynnag y maent, fod in weision chwibanogl iddo ef? Pa ham y mae ⟨p. 41⟩ynte in gwneuthyr frost may Brenhin y Brenhinoedd ydyw ef, a bod iddo frenhinol lywodraeth ar ei ddeiliaid? Pa ham y mae ef in peri i‘r holl Ymerodreu, ar Twysogion, roi llwf ffyddlondeb, ag ufudd-dod iddo ef? Pa ham y mae efe in ffrostio fod in uwch ei radd ef, no grad yr Ymerodr aros y deu-can cymaint, a hynny‘n enwedig oblegid i Dduw wneuthyr dau olevad in y Nef;2 ag er mwyn iddo wneuthyr y Nef ar ddayar, nid mewn dau ddechrevad, eithr mewn un? Pa ham y darfu iddo ef, a‘i galynwyr, in ol dull yr Anabaptistiaid a‘r Libertiniaid, 3fwrw‘r Jau heibio ag ymryddhau oddi dan pob awdurdod in y bid, fall y gallent hwy foelstotta‘n benrhyddach, ag in ddi-ogelach? Pa ham y mae gentho ef Gennadwyr, self yw hynny, Spiwyr fell jawn, in dirgel-ddisgwyl ofewn llyssoedd, cynghorau, a chyfrinach-stafelleu pob brenin? Pa ham y mae ef pan fynno fo in rhoi‘r Twysogion Cristnogaidd in erbyn eu gilydd, ag wrth ei chwanteu ei hun, in aflonyddu‘r holl fyd, drwy gynnwrf a chynhenneu? Pa ham y mae ef in escumuno ag in peri cymeryd fall Ethnic, a Phagan, pob Twysog o Gristion a ymwrthodo a‘i lywodraeth ef? A pha ham y mae ef in ado enaid rhydd a phardyneu ⟨image 48⟩cyn haeled, a chin helaethed, i bwy bynnag a‘r a laddo un oi elynion ef, mewn ford in y bid? ydyw ef in cynnal Ymerodraetheu, a Brenhiniaetheu, neu yw ef unwaith in chwenychy heddwch cyffredin? Ti a ddylid, ddarlleydd duwiol, fad i ni, er dy fod in tybied adrodd o honom-mi y petheu hyn in chwerwach, ag a geirieu duach, nog a wed i wyr Eglwysig eu harfer; Oblegid mae‘r destyn mor wradwyddus, ag awydd y Pab i ddwyn rhwysc in y bid, mor anrhaith-ddioddef, ag na ellir traethu hyn in llarieiddiach, nag a geiri eu amgenach. Canys nid oedd gywilydd arno, na gwladeiddrwydd yntho,