A04462:95
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Blin ydym in adrodd y faith betheu ar rhain, a phoenus jawn fydde goffau holl gampau gwchion Pabau Rhufain. O ba blaid y dolwg oedd y sawl a wenwynodd yr Ymerodr Henri‘r. 7. fed, wrth Gumuno? ag a wenwynodd y Pab Victor in derbyn y caregl? ag a wenwynodd Joan brenin y deyrnas ymma, wrth yfed diod? ⟨image 49⟩Pwy bynnag, ag o ba blaid bynnag yr oeddynt, diau nad oeddynt hwy na Lutheranaid, na Zuingliaid. Pwy heddyw sy‘n cynnwys Brenhinoedd a Thwysogion galluawg i gussanu ei draed bendigaid ef? Pwy sy‘n peri i‘r Ymerodr sefyll wrth ben ei farch; ag in gorchymyn i Frenin Ffrainc ddal y warthol iddo? Pwy a rwymodd mewn cadwyni Françis Dandalus, 1yr hwn ydoedd Ddûc o Venis, brenin Creta, a brenin Cyprus, ag a‘i taflodd ef dan ei fwrdd, i gnoi escyrn ymhlith cwn? Pwy, nid a‘i law, and a‘i droed, a goronodd yr Ymerodr Henri‘r 7. fed, ag a‘r un troed a fwriodd y goron oddiar ben yr Ymerodr,2 gan ddoedyd, allu o hono-fo wneuthyr Ymerodreu, a‘u dad-wneuthyr hwynt, fall y mine efe?3 Pwy a barodd i Henri‘r mab godly mewn arfeu in-nerbyn yr Ymerodr Henri y pedwerydd ei dad ef, ag a wnaeth i‘r mab ddal ei dad ei hun in garcharor; a phwy wedi cneifio a dirmygu‘r Ymerodr, a wnaeth ei fwrw ef mewn Mynachlog, lle, drwy newyn, a nychdod, a thrymder, y bu ef farw? Pwy mor frwnt aruthrawl a rod dan ei draed wddwf yr Ymerodr Frederic, a rhag na bae hynny ddigon trahaus, ef a draethodd in y chwaneg y geirieu hyn o‘r Psalmeu, Ar yr Asp a‘r ⟨p. 43⟩Basilisc y cerddi, a thy a sethri dan dy draed, 4y Llew a‘r Ddraic: y faith ddirmyg a diystyrwch ar fraint a mowredd Twysog ni chlywyd son amdano mewn oes in y bid, na chynt na chwedi; oddieithr y peth a wnaeth Tamberlan Brenin Sçithia, yr hwn ydoedd wr from-wilt di-disc di-dawn; neu‘r hyn a wnaeth Sapores Brenin Persia?
Blin ydym yn adrodd y fath betheu ar rhain, a phoenus iawn fydde goffau holl gampau gwchion Pabau Rhufain. O ba blaid y dolwg oedd y sawl a wenwynodd yr Ymerodr Henri‘r. 7. fed, wrth Gumuno? ag a wenwynodd y Pab Victor yn derbyn y caregl? ag a wenwynodd Ioan brenin y deyrnas ymma, wrth yfed diod?