A04462:82
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And trymma peth yw hyn, eu bod nhwy‘n doedyd amdanom may dynion bryntion annuwiol ydym, wedi bwrw ymaeth in ollawl ofalu am grefydd: Ag etto ni ddyle hyn mo‘n trymhau nemor chwaith, gan eu bod nhwy hunain y rhai a haurassant hyn arnom, in gwybod mor oganllyd,1 ag mor falls ydyw. Canys Justinus y Merthyr sy‘n testiolaethu, pan ddechreuwyd pregethu‘r Efengyl a gossod ⟨p. 32⟩allan henw Christ, may peth cyffredin y pride hynny oedd alw‘r yoll Gristnogion [Greek or Hebrew], self, dynion di-Dduw. A phan oedd Policerpus in sefyll yw farnu, yna yr annoge‘r bobl y Rhagbenrhaith i lad a difa cymain-hnn y sawl a addefent yr Efengyl, gan ddoedyd fall hyn [Greek or Hebrew], self, gwna ben am y dynion melltigedig ymma sy heb Dduw genthynt. Ag nid ydoedd hyn o drin, o herwydd bod in wir nad oedd Dduw gan y Cristnogion, eithr o herwydd nad addolent hwy gerrig, a *chyffion, y petheu a addolidy pride hynny megis Duwiau. And mae‘r holl fyd bellach in gweled in ddigon amlwg, beth a ddioddefasom-mi, a‘n cyd-frodyr, gan y gwyr hyn, er mwyn crefydd ag unig achos eyn gwir Dduw. Nhwy a‘n bwriasont-m‘r carchareu, i‘r dyfroedd, i‘r Tan, ag a‘m drybaeddasant in eyn gwaed ni; a hynny, nid oblegid eyn bod ni‘n odinebwyr, neu‘n ladron, neu‘n lad dynion, namyn in unig er mwyn eyn bod ni‘n cyfaddef Efengyl Jesus Grist, ag in gobeithio in y Duw byw:
Ond trymma peth yw hyn, eu bod nhwy‘n doedyd amdanom may dynion bryntion annuwiol ydym, wedi bwrw ymaeth yn ollawl ofalu am grefydd: Ag etto ni ddyle hyn mo‘n trymhau nemor chwaith, gan eu bod nhwy hunain y rhai a haurassant hyn arnom, yn gwybod mor oganllyd,1 ag mor ffals ydyw. Canys Iustinus y Merthyr sy‘n testiolaethu, pan ddechreuwyd pregethu‘r Efengyl a gossod ⟨p. 32⟩allan henw Crist, may peth cyffredin y pryd hynny oedd alw‘r yoll Gristnogion 〈non-Latin alphabet〉, sef, dynion di-Dduw. A phan oedd Policerpus yn sefyll yw farnu, yna yr annoge‘r bobl y Rhagbenrhaith i ladd a difa cymain-hnn y sawl a addefent yr Efengyl, gan ddoedyd fal hyn , sef, gwna ben am y dynion melltigedig ymma sy heb Dduw genthynt. Ag nid ydoedd hyn o drin, o herwydd bod yn wir nad oedd Dduw gan y Cristnogion, eithr o herwydd nad addolent hwy gerrig, a