A20213:528
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Chwi a ddywedasoch y gwir in union, ag in gysson ar Scrythrau: Canys yr Scrythur â ddywed: Gwybed meirw â ddrewant, ac â ddifwynant ennaint yr Apothecari: felly y chydig ffolineb a ddifwyna ŵr ardderchog oherwydd ei ddoethineb, a'i anrhydedd. Lle y dengys Solomon, os â gwybedyn i flŵch ennaint yr Apothecari, a marw yno, a drewi ynddo, efe a'i difwyna oller daed fyddo: felly o chaiff pechod bychan fined i mewn i gallon, a thorri allan i dalcen gŵr tra enwog am ryw rinweddau rhagorol, y pechod bychan hwnnw a'i difwyna ef, abair iddo anglod, er maint ei gymmeriad.
Theol. Chwi a ddywedasoch y gwir yn vnion, ag yn gysson ar Scrythrau: Canys yr Scrythur â ddywed: Gwybed meirw â ddrewant, ac â ddifwynant ennaint yr Apothecari: felly y chydig ffolineb a ddifwyna ŵr ardderchog oherwydd ei ddoethineb, a'i anrhydedd. Lle y dengys Salomon, os â gwybedyn i flŵch ennaint yr Apothecari, a marw yno, a drewi ynddo, efe a'i difwyna oller daed fyddo: felly o chaiff pechod bychan fyned i mewn i galon, a thorri allan i dalcen gŵr tra enwog am ryw rinweddau rhagorol, y pechod bychan hwnnw a'i difwyna ef, abair iddo anglod, er maint ei gymmeriad.
Phila. Dangoswch hyn, adolwyn in eglurach.
Phila. Dangoswch hyn, adolwyn yn eglurach.
Theol. Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bid pennaeth in ŵr da, ac ynddo lawyer o ddoniau rhagorol, o rywiogeiddrwydd; dioddefgarwch, gostyngeiddrwydd, a chariad▪ i wîr grefydd: er hynny os bid efe in chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny in fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da jawn, oni bay un peth, y mae efe in chwannog dross ben, in gorthrymmu tlodion, in dôst wrth eu ddetliaid, heb gadw tŷ jawn, ac in gwneuthur ychydig ddaioni in ywlâd lle' yr erys. A hyn yw'r peth sy'n difwyno'r cwbl. Ymhellach, gedwih i farnwr, neu ynad, neu llywodraethwr fod wedi ei gynysgaeddu a champau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cymmedrolder, haelioni, a chyfarwyddyd in y gyfraith: Etto os bid efe in ŵr digllon, in cymmeryd gwobrau: Oh mor flin a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, and y mae un peth ynddo in difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dross ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma in aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a srocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr in anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth.