A20213:530
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bid pennaeth in ŵr da, ac ynddo lawyer o ddoniau rhagorol, o rywiogeiddrwydd; dioddefgarwch, gostyngeiddrwydd, a chariad▪ i wîr grefydd: er hynny os bid efe in chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny in fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da jawn, oni bay un peth, y mae efe in chwannog dross ben, in gorthrymmu tlodion, in dôst wrth eu ddetliaid, heb gadw tŷ jawn, ac in gwneuthur ychydig ddaioni in ywlâd lle' yr erys. A hyn yw'r peth sy'n difwyno'r cwbl. Ymhellach, gedwih i farnwr, neu ynad, neu llywodraethwr fod wedi ei gynysgaeddu a champau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cymmedrolder, haelioni, a chyfarwyddyd in y gyfraith: Etto os bid efe in ŵr digllon, in cymmeryd gwobrau: Oh mor flin a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, and y mae un peth ynddo in difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dross ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma in aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a srocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr in anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth. ⟨p. 236⟩Etto ymhellach o bid Pregethwr â chanddo rôdd ragorol, y Cyffredin bobl â ddywed am dano: Oh gŵr p••ffaith yw in wir▪ odiae•h o ddŷ•c, Scrythyr'wr •rwyadl, gŵr nodedig mewn pulpit: and e•to er hyn ei gŷ• y mae arno remp in difwyno'r cwbl, y mae in faich anguriol: y mae efe cyn falched a Luwciffer. In sicrr y mae ganddo d•oniau rhagorol: and mi â attebaf i chwi y gŵyr efe hynny in ddigon dâ. Canys y mae ganddo ymddygiad uchel, ac a edrych in flwng, ac in scoewan ar bawb eraill: o mae in chŵ•dd hid yr ên▪ o falchder: in tybied o honaw ei hûn in well nag o nêb. Mal hyn ni â welwn pa wed y mae y gwybed meirwon in difwyno'r cwbl: a pha fodd y mae rhyw un pechod in peri gogan i ddŷn, â fyddei, oni bay hynny, in rhagori.