A20213:536
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. In ddiddadl, tynnu i lawr â wnânt ddigofaint Duw arnom oll, a rhoi iddo achos cyfiawn i droi'r cwbl ar y gwaethaf, a llwyr ddadymchwelyd, ac anrheithio llwyddiannus gyflwr yr eglwys, ar deyrnas: Je i wneuthur difrod anescorol, ac anghyfancdd-dra or cwbl. Oblegit y pechodau hynny ydynt megis pentwynion digofaint Duw, ac megis sych'wŷdd i ennyn ei dig ef, a'i lidiawgrwydd i'n herbyn. Canys yr Apostol a ddywed. Am y pethau hyn y daw digofaint Duw ar blant yr anvfydd-dod.
Theol. Yn ddiddadl, tynnu i lawr â wnânt ddigofaint Duw arnom oll, a rhoi iddo achos cyfiawn i droi'r cwbl ar y gwaethaf, a llwyr ddadymchwelyd, ac anrheithio llwyddiannus gyflwr yr eglwys, ar deyrnas: Ie i wneuthur difrod anescorol, ac anghyfancdd-dra or cwbl. Oblegit y pechodau hynny ydynt megis pentwynion digofaint Duw, ac megis sych'wŷdd i ennyn ei ddig ef, a'i lidiawgrwydd i'n herbyn. Canys yr Apostol a ddywed. Am y pethau hyn y daw digofaint Duw ar blant yr anvfydd-dod.
Phila. Mynegwch i ni allan or Scrythyrau, pa fodd in yr amseroedd gynt, y cospodd yr Arglwydd genedlaethau cyfain, a theyrnasoedd am y pechodau hyn'a'u cyffelyb.
Phila. Mynegwch i ni allan or Scrythyrau, pa fodd yn yr amseroedd gynt, y cospodd yr Arglwydd genedlaethau cyfain, a theyrnasoedd am y pechodau hyn'a'u cyffelyb.
Theol. In y bedwaredd o Hosea y dywed yr Arglwydd wrth ei bobl Fod cwyn rhyngddo â th••golion y wlâd, am nad oes wirionedd, na thrugaredd, na gwybodaeth o Dduw in y wlâd, onid tyngu, dywedyd ⟨p. 239⟩celwydd, lad celain, lledratta, a thorri priodas â orchfygasant, a gwaed â gyffwrdd â gwaed: am hynny y galara ywlâd, y llesceir ywlâd, ar hyn oll â fyddo in trigo ynddi, o fwystfilod y maes, ac o ehediaid y nefoedd, pyscy môr hefyd a ddarfyddant. Ymma y gwelwn pa beth yw'r hyn â bair i Dduw gyffroi i'n herbyn, ac â wna i bawb o honom alaru. Felly in yr un ffunyd y mae yr Arglwydd in bygwth drwy'r Prophwyd Amos. Mai am dreisio, a gorthrymmu y tlawd y dygei efe dialled ar yr holl wlâd. Oni chrŷna y ddaiar am hyn? oni alara ei holl breswylwyr. Drachefn yr Arglwydd â ddywed drwy'r Prophwyd