A20213:694
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Y Pregethwyr, i Dduw bo'r diolch, a gyttunânt a'i gilydd or goreu, in holl brifbyngciau crefydd, a sylfeini jechydwriaeth: eithr os anghyttunant mewn rhyw achosion eraill, chwychwi â ddylech brofi yr ysprydion, â ydynt o dduw. Rhaid i chwi brofi pob peth, a chadw'r hyn sydd dda.
Theol. Y Pregethwyr, i Dduw bo'r diolch, a gyttunânt a'i gilydd or goreu, yn holl brifbyngciau crefydd, a sylfeini iechydwriaeth: eithr os anghyttunant mewn rhyw achosion eraill, chwychwi â ddylech brofi yr ysprydion, â ydynt o dduw. Rhaid i chwi brofi pob peth, a chadw'r hyn sydd dda.
Antil. Pa fodd y dichon dynion gwirion, anwybodus brofi ysprydion, ac addysc y Pregeth-wyr?
Theol. Gallant. Oblegit yr Apostol â ddywed. Y din ysprydol sy'n dirnad (neu in barnu) pob peth. A Saint Joan â ddywed: And y mae yr eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef in aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisieu dyscu o neb chwi, ac chwi a wyddoch bob peth. Self bob peth angenrheidiol i jechydwriaeth. Gan hynny y rhai sy ganddynt Yspryd Duw â fedrant farnu, a dirnad athrawiaethau, â ydynt o Dduw, ai nad ydynt.
Theol. Gallant. Oblegit yr Apostol â ddywed. Y dyn ysprydol sy'n dirnad (neu yn barnu) pob peth. A Sant Ioan â ddywed: Ond y mae yr eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisieu dyscu o neb chwi, ac chwi a wyddoch bob peth. Sef bob peth angenrheidiol i iechydwriaeth. Gan hynny y rhai sy ganddynt Yspryd Duw â fedrant farnu, a dirnad athrawiaethau, â ydynt o Dduw, ai nad ydynt.