A20213:849
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Ina, chwi â ddorrasoch yr wythfed gorchymmyn, ac ydych in evog o farwolaeth dragwyddol. Oblegyd y mae Duw in y gorchymmyn hwn in rhoi arnom siars i gymmeryd cymmaint gofal am dda ein cymmydogion, ac am yr eiddom ein hunain, ac na bo i ni wneuthur cam ag hwynt mewn fforod in y bid, ar feddwl, gair, neu weithred. ⟨p. 372⟩Am hynny y condemnir yma bob mâth ar dwyll, lledrat, trais, a phôd camwedd ynghylch da ein cymmydog. Ym mhellach gadewch i mi ofyn i chwi â ddywedasoch erioed gelwydd, neu ragrith.
Theol. Yna, chwi â ddorrasoch yr wythfed gorchymmyn, ac ydych yn euog o farwolaeth dragwyddol. Oblegyd y mae Duw yn y gorchymmyn hwn yn rhoi arnom siars i gymmeryd cymmaint gofal am dda ein cymmydogion, ac am yr eiddom ein hunain, ac na bo i ni wneuthur cam ag hwynt mewn fforod yn y byd, ar feddwl, gair, neu weithred. ⟨p. 372⟩Am hynny y condemnir yma bob mâth ar dwyll, lledrat, trais, a phôd camwedd ynghylch da ein cymmydog. Ym mhellach gadewch i mi ofyn i chwi â ddywedasoch erioed gelwydd, neu ragrith.
Asune. Do, in wir.
Asune. Do, yn wir.
Theol. Wrth hynny chwi â droseddasoch y nawfed gorchymyn: in yr hwn y mae Duw in gofyn gennym wrth ddwyn testiolaeth, ac ar achosion eraill, adrodd y gwir in ddiragrith, o'n calonnau, heb na chelwydd, na choluro. In ddiweddaf oll, moeswch glywed, a ddeisyfiasoch erioed in eich calon ddim, ar nad oedd eiddoch eich hûn: megis tŷ eich cymmydog, neu dîr, neu wartheg, neu ddefaid gan ddatcuddio wrth hynny anfodlonrhwydd eich calon i'r hyn a oedd eiddoch eich hûn?