A20213:851
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Wrth hynny chwi â droseddasoch y nawfed gorchymyn: in yr hwn y mae Duw in gofyn gennym wrth ddwyn testiolaeth, ac ar achosion eraill, adrodd y gwir in ddiragrith, o'n calonnau, heb na chelwydd, na choluro. In ddiweddaf oll, moeswch glywed, a ddeisyfiasoch erioed in eich calon ddim, ar nad oedd eiddoch eich hûn: megis tŷ eich cymmydog, neu dîr, neu wartheg, neu ddefaid gan ddatcuddio wrth hynny anfodlonrhwydd eich calon i'r hyn a oedd eiddoch eich hûn?
Theol. Wrth hynny chwi â droseddasoch y nawfed gorchymyn: yn yr hwn y mae Duw yn gofyn gennym wrth ddwyn testiolaeth, ac ar achosion eraill, adrodd y gwir yn ddiragrith, o'n calonnau, heb na chelwydd, na choluro. Yn ddiweddaf oll, moeswch glywed, a ddeisyfiasoch erioed yn eich calon ddim, ar nad oedd eiddoch eich hûn: megis tŷ eich cymmydog, neu dîr, neu wartheg, neu ddefaid gan ddatcuddio wrth hynny anfodlonrhwydd eich calon i'r hyn a oedd eiddoch eich hûn?
Asune. Yr wyf mor feius in hyn, ac mewn dim arall. Oblegid (Duw â faddevo i mi) mynych y deisyfiais, ac y chwenychais hyn neu'r llall, ar nad oedd in eiddof fy hûn, ac felly â ddangosais fy anfodlonrhwydd.
Asune. Yr wyf mor feius yn hyn, ac mewn dim arall. Oblegid (Duw â faddeuo i mi) mynych y deisyfiais, ac y chwenychais hyn neu'r llall, ar nad oedd yn eiddof fy hûn, ac felly â ddangosais fy anfodlonrhwydd.
Theol. Wrth hyn, yr wyf in deal (a chwi eich hûn in cyfaddef) eich bod in evog o dory yr holl orchymynion.
Theol. Wrth hyn, yr wyf yn deall (a chwi eich hûn yn cyfaddef) eich bod yn euog o dorri yr holl orchymynion.