A20213:912
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Attolwg rrhwi Sir (o herwydd fy môd i heb wybodaeth gennif, ac in annyscedig) roddi i mi beth cyfarwyddyd manylach allan o air Duw, wrth yr hwn y gallwyf hyfforddi, a threfnu fyngweithredoedd neilltuol in yr cyfryw fodd, ac y gallwyf o goneddu Duw ar y ddaiar, a chael fyngogoneddu gan Dduw ar ôl y bywyd ymma in y Nefoedd.
Asune. Attolwg rrhwi Syr (o herwydd fy môd i heb wybodaeth gennif, ac yn annyscedig) roddi i mi beth cyfarwyddyd manylach allan o air Duw, wrth yr hwn y gallwyf hyfforddi, a threfnu fyngweithredoedd neilltuol yn yr cyfryw fodd, ac y gallwyf o goneddu Duw ar y ddaiar, a chael fyngogoneddu gan Dduw ar ôl y bywyd ymma yn y Nefoedd.
Theol. Gwaith an-orphen fyddei teimlo pob peth in neillduol: And ar fir eiriau gwnewch hyn. Ceisiwch Dduw in ddiwyd in ei air: Gweddiwch in fynych: Ymhôb peth rhoddwch ddiolch: gochelwch ddrŵg, a gwnewch dda: ofnwch Dduw, a chedwch ei orchymynion: gwellhewch eich buchedd eich hûn, â diwygiwch feiau eich teulu: Cerwch rinwedd dda, a phôb din rhinweddol. Dilynwch gymdeithas y Duwiol, ac na fydded i chwi gyfeillach ar annuwiol. Ymddygwch in sobr in union, ac in sanctaidd in y bid drŵg presennol hwn. ⟨p. 401⟩Bydded eich ymadrodd bob amser in raslawn, a gochelwch serthedd, na thelwch i neb ddrŵg, and gwnewch dda tros ddrŵg. Byddwch addfwyn, a chymmwynasgar i bawb: Gochelwch dyngu, rhegu, a melldithio. Gwiliwch rhag digter, llid, a chwerwedd. Canmolwch eich anwyl-din ar osteg, a cheryddŵch ef in ddirgel: Na ddywedwch ddrŵg am ray absennol, nac am y marw, je na ddywedwch ddrŵgam neb, and y goreu am bawb bôb amser, or hyn lleiaf na ddywedweh y gwaethaf. Perchwch enw Duw, a chedwch ei Sabbothau: Gochelwch bob argoelion barnedigaeth, a cheisiwch in ddyfal bôb arwyddion jachawdwriaech: O flaen pôb peth, ymogelwch rhag pechod; canys hwnnw yw torgêg yr enaid, a dinistrudd pob daioni. Arswydwch gan hynny, ac na phechwch, canys os ymrowch i bechu, edrychwch beth sy'n canlyn: y mae 1. Duw in gweled.1 2. Yr Angelion in tystiolaethu. 3. Y gydwybod in dwys-demmigo. 4. Angeu in bygwth. 5. Y cythraul in cyhuddo. 6. Ac uffern in difetha.