A20213:930
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Megis y mynegasoch i ni, y dychryn, y diwedd-achos, a dull dyfodiad Christ, ac mor ddisymmwth y daw efe ir farn: Felly bellach in ddiwaethaf dangoswch i ni pa jawn-ddefnydd â wneir or pethau hyn.
Phila. Megis y mynegasoch i ni, y dychryn, y diwedd-achos, a dull dyfodiad Crist, ac mor ddisymmwth y daw efe ir farn: Felly bellach yn ddiwaethaf dangoswch i ni pa iawn-ddefnydd â wneir or pethau hyn.
Theol. Saint Petr a ddywed, ac a disc ini jawn ddefnydd y cwbl: Canys (ebb efe) Gan fod in rhaid i hyn ei gyd ymollwng, pa fâth ddynion â ddylech ehwi fod mewn ymarweddiad, a duwioldeb. Fell pe dywedasei, gan fod y Nefoedd in mined heibio mewn trŵst, ar defnyddiau o wîr wrês in toddy, ar ddaiar, a'r gwaith a fyddo ynddi in rhaid ei llosci: Hefyd gan fod dyfodiad Christ iw ddisgwyl mewn dychrŷn mawr, diwedd ⟨p. 421⟩ofnadwy, a dull arswydus, pa egni a ddylem ni ei wneuthur i geisio cynnyddu, a rhagori mewn daioni? Felly Saint Petr a ddengys i ni, mai'r gwir ddefnydd, a'r addysc o'r cwblyw hyn: Self, mal drwy ystyriaeth or pethau hynny, y galler ein dwyn in nês at Dduw, i fod in ufyddach iw ewyllys ef, ac i rodio in ei holl orchymynnion, gan wneuthur cydwybod o'n holl ffyrdd: A bwriadu bodloni Duw ym mhôb peth: bod in ffrwythlon ym mhôb gweithred dda, drwy fyw in sobr ac in sanctaidd in y bid presennol drygionus hwn: A chan ddangos allan rinweddau yr hwn a'n galwodd o dywyllwch i'r rhyfeddol oleuni hwn: fell y gallom ymbaratoi erbyn did ei ymddangosiad ef, fell na'n goddiweddo ar y gwaethaf. Canys ein bywyd ni a ddylei fed in fyfyrdod gwastadol am farw. Nyni a ddylem fyw beunydd, fell pe baem in marw beunydd, neu fell pe byddei ein gwely in fed i ni. Ein rhan ni yw byw beunydd megis pe devai Christ i'r farn in ebrwydd. Fell yr adroddir am ŵr duwiol gynt ym amser y Brifeglwys: nid amgen: Beth bynnac a wnai, ai bwyta, ai yfed, ai beth bynnac arall, fe dybygei ei fod in clywed utcorn yr Arglwydd in datseinio beunydd in ei clustiau, ⟨p. 422⟩gyd a'r geiriau hyn: Cyfodwch y meirw, a deuwch i'r farn. Beth pe gwybyddid in siccr y devai Christ i'r farn ŵyl Joan nessaf: Pa gyfnewid a wnai hynny ar y bid, pa ddiwygio a wneid ar feddyliau, a chyneddfan? Pwy a gymmerei offal am y bŷd hwn? Pwy a ofodei ei frŷd, ai search ar olud? Pwy a wnai gyfrif o ddillad gwychion? Pwy a lefasei feddwi? Pwy fyddei mor hŷf a thyngu, dywedyd celwydd, a godinebu? Nagê, onid ymroddai pob din i ufyddhau i Dduw? Oni wasanaethei pawb ef in ddiwyd? Oni redai gwŷr, gwragedd a phlant in finteioedd i wrando ar Bregethau? Onid ymroent i weddio, a darllain? Onid edifarhaent am eu pechodeu? Oni lefent am drugaredd a maddevant: Gwelwch wrth hyn, faint a weithiei gwybodaeth siccr o fod y farn in dyfod in agos. Ac oni ddylei fod gennym ni gymmaint gofal, a'r awydd i wneuthur y pethau hyn, o herwydd body did in annwybod i ni?