A20213:932
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pwy a ŵyr â ddaw Christ y mîs ymma? y flwyddyn ymma, neu'r flwyddyn nesaf? Efe ei hûn a ddywed. Byddwch barod, gwiliwch, canys in yr aw'r nis tybioch y daw mâb y din. Tybied yr ydym ni, na ddaw did y farn y leni, na'r flwyddyn nessaf, na'r cân mlynedd hyn; nid hwyrach er ⟨p. 423⟩hynny y daw efe in ddisymwth arnom, ni wyddwn pa cyn gynted: Canys mewn awr ni ddisgwyliom am dano, y daw efe. Am hynny y dywed ein Achubwr: Ymogelwch, 1gwiliwch a gweddiwch, canys ni wyddoch pa brŷd y bid yr amser. Ac in Efengyl Saint Luc y dywed.2 Edrychwch arnoch eich hunain rhag gorchfygu eich calonnau, a glothineb, a meddwdod, a gofalon y bid hwn, a dyfod y did hwnnw arnoch in ddisymmwth. Canys fe ddaw fell magl ar wartha pawb oll ar sydd in trigo ar wyneb y ddaiar. Mal hyn ni a glywn faint o rybuddion, ac amneidiau a ddyry ein Achubwr i ni pan yw in dywedyd: Byddwch barod, deffrowch, ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch, ac edrychwch o'ch amgylch rhag dyfod y did hwnnw arnoch in ddisymmwth, ach dal ar y gwtta. Wrth hyn angenrhaid i ni fod in barod bôb amser, tan boen marwolaeth, ac fell yr attebom i'r gwrthwyneb tan ein perigl.
Pwy a ŵyr â ddaw Crist y mîs ymma? y flwyddyn ymma, neu'r flwyddyn nesaf? Efe ei hûn a ddywed. Byddwch barod, gwiliwch, canys yn yr aw'r nis tybioch y daw mâb y dyn. Tybied yr ydym ni, na ddaw dydd y farn y leni, na'r flwyddyn nessaf, na'r cân mlynedd hyn; nid hwyrach er ⟨p. 423⟩hynny y daw efe yn ddisymwth arnom, ni wyddwn pa cyn gynted: Canys mewn awr ni ddisgwyliom am dano, y daw efe. Am hynny y dywed ein Achubwr: Ymogelwch, 1gwiliwch a gweddiwch, canys ni wyddoch pa brŷd y bydd yr amser. Ac yn Efengyl Saint Luc y dywed.2 Edrychwch arnoch eich hunain rhag gorchfygu eich calonnau, a glothineb, a meddwdod, a gofalon y byd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Canys fe ddaw fel magl ar wartha pawb oll ar sydd yn trigo ar wyneb y ddaiar. Mal hyn ni a glywn faint o rybuddion, ac amneidiau a ddyry ein Achubwr i ni pan yw yn dywedyd: Byddwch barod, deffrowch, ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch, ac edrychwch o'ch amgylch rhag dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth, ach dal ar y gwtta. Wrth hyn angenrhaid i ni fod yn barod bôb amser, tan boen marwolaeth, ac fel yr attebom i'r gwrthwyneb tan ein perigl.