A20213:957
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Efe â ddychwel, ac â drugarhâ wrthym ac â ddarostwng ein anwiredd, 1ac â deifl ein holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. Drachefn y dywed drwy'r Prophwyd Isaiah: Myfi, 2myfi yw'r hwn â ddilea dy gam-weddau er fy mwyn fy hûn, ac ni chofiaf dy bechodau. Ac etto in garediccach y dywed wrthym drwy'r Prophwyd Jeremiah: Dychwel attaf, ac ni ad•waf i'm llid syrthio arnat, 3canys trugarog ydwyfi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid in dragywydd. Ac eilchwel drwy'r Prophwyd Hosea y dywed: Ni chyflawnaf angerdd sy llîd, 4ni ddychwelaf i ddinistrio Ephraim, canys Duw ydwyfi, ac nid dŷn. Byddwch lawen gan hynny ymgyssurwch ar addewidion hyn: y mae i chwi achos i fod in llawen, gan weithio o Dduw ynoch anfodlonrhwydd, a galar am eich pechodau, yr ⟨p. 441⟩hyn sydd argoel hynod, na wna eich pechodau i chwi bight ddim niwed. Canys pechodau or blaen ni allant i ni mwed os byddwn anfodlon i bechodau presennol. Chwi aethoch in gâs gennych eich pechodau, galaru yr ydych tan eu baich, am hynny dedwydd ydych. Canys gwyn eu bid y rhai galarus▪ paham gan hynny y byddwch chwi mor drîst ac mor brûdd:5 Cofiwch yr hyn â ddywed S. Joan Os pecha nêb, y mae i ni ddadleu-ŵr, gyd a'r Tâd Jesus Grist y cyfiawn, ac efe yw yr aberth tros ein pechodau. S. Paul â ddywed▪ 6fod Jesus Grist wedi ei osod in jawn trwy ffydd in ei waed ef. Drachefn yr Yspryd Glân â ddywed: Efe â ddichon hefyd in gwbl, 7jachau y rhai trwyddo ef sy'n dyfod at Dduw, am ei fod efe in byw bob amser i eiriol trostynt hwy. Yr Apostol â ddywed: