14. Ymosod i weddio in daer, ac in wastadol. Annuwiol fydd yr hwn sydd in attal gweddi ger bron Duw, Job. 15. 4. a rhagrithiwr fydd anwadl ynddi, Job. 27. 10. pan fyddo grâs in troy dŷn, un o'r pethau cyntaf a wnaiff yw gosod y dychrynedig i weddio, Act. 9. 11. ⟨p. 105⟩Cymmer amser beunydd i weddio in ddirgel, ac in dy deulu. Gwae fydd i'r teulnoedd ni alwant ar enw Duw, Jer. 10. 25. Bydded dy weddi in wresog ac in egniol, ni chymmerir teyrnas nef heb drais, Math. 11. 12. Ac ymdrech, Luk. 13. 24. Ni cheir y fendith heb ymbil a dagrau, Gen. 32. 24. Hosh. 12. 4. Peth anhepcor yw grâs, na chymer nâg wrth ei ofyn. Os gwrthddadleva neb yma, nad yw Duw in gwrando pechaduriaid, Joan. 9. 31. Rhaid i ni wneuthur dosparth ar bechaduriaid: rhai o honynt sydd wrthnyssig, ac in parhau in eu drugioni in gyndyn, gweddiau y rheini sydd gâs gan Duw: and y mae rhai pechaduriaid in edifarus, a phan weddio y rheini gwrendy Duw arnynt, a daw iw cyfarfod â thrugaredd, Luc. 15. 20. Je gwnaeth Duw lawyer er gweddiau y sawl a edifarhasant in hannerog. Nid offer fu ei ostyngiad i Ahab, nag ympryd i Nineveh, Jonah 3. 8, 9, 10. 1 Brenh. 21. 27. Pethau amserol yr oeddent hwy in ei ofyn, ac os gofynni di bethau ysprydol di fyddi debyccach iw caffael, am fod in fodlonach gan Dduw y sawl ai ceisio, a hynny drwy Grist hefyd. Dihar. 2. 1, 2, 3, 4, 5, 6. Luc 11. 9. 10, 11, 12, 13. Dihar. 8. 34, 35. And cyssur iti ei fod ef in dy alw di, Marc 10. 49. Gan iddo orchymyn iti arferu moddion ni fioma efe monoti in dy ufydd-dod. O gweddia heb diffygio, Luc 18. 1. Y Saint sydd in awr mewn gogoniant, a fuont unwaith mor wael a thitheu, am hynny eiriol ar y Goruchaf a ddichon wneuthur cymmaint erddoti ac erddynt hwy.
14. Ymosod i weddio yn daer, ac yn wastadol. Annuwiol fydd yr hwn sydd yn attal gweddi ger bron Duw, Job. 15. 4. a rhagrithiwr fydd anwadl ynddi, Job. 27. 10. pan fyddo grâs yn troi dŷn, un o'r pethau cyntaf a wnaiff yw gosod y dychrynedig i weddio, Act. 9. 11. ⟨p. 105⟩Cymmer amser beunydd i weddio yn ddirgel, ac yn dy deulu. Gwae fydd i'r teulnoedd ni alwant ar enw Duw, Jer. 10. 25. Bydded dy weddi yn wresog ac yn egniol, ni chymmerir teyrnas nef heb drais, Math. 11. 12. Ac ymdrech, Luk. 13. 24. Ni cheir y fendith heb ymbil a dagrau, Gen. 32. 24. Hosh. 12. 4. Peth anhepcor yw grâs, na chymer nâg wrth ei ofyn. Os gwrthddadleua neb yma, nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid, Joan. 9. 31. Rhaid i ni wneuthur dosparth ar bechaduriaid: rhai o honynt sydd wrthnyssig, ac yn parhau yn eu drugioni yn gyndyn, gweddiau y rheini sydd gâs gan Duw: ond y mae rhai pechaduriaid yn edifarus, a phan weddio y rheini gwrendy Duw arnynt, a daw iw cyfarfod â thrugaredd, Luc. 15. 20. Je gwnaeth Duw lawer er gweddiau y sawl a edifarhasant yn hannerog. Nid ofer fu ei ostyngiad i Ahab, nag ympryd i Niniveh, Jonah 3. 8, 9, 10. 1 Brenh. 21. 27. Pethau amserol yr oeddent hwy yn ei ofyn, ac os gofynni di bethau ysprydol di fyddi debyccach iw caffael, am fod yn fodlonach gan Dduw y sawl ai ceisio, a hynny drwy Grist hefyd. Dihar. 2. 1, 2, 3, 4, 5, 6. Luc 11. 9. 10, 11, 12, 13. Dihar. 8. 34, 35. Ond cyssur iti ei fod ef yn dy alw di, Marc 10. 49. Gan iddo orchymyn iti arferu moddion ni fioma efe monoti yn dy ufydd-dod. O gweddia heb diffygio, Luc 18. 1. Y Sainct sydd yn awr mewn gogoniant, a fuont unwaith mor wael a thitheu, am hynny eiriol ar y Goruchaf a ddichon wneuthur cymmaint erddoti ac erddynt hwy.