A26692:280
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er…
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Llundain : Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
16. Ymneilltua weithieu i weddio ac i ymprydio in ddirgel, er mwyn gwneuthur dy gallon in deimladwy o'th bechod, a'th drueni. Ystyr y gorchymynion o fesur un ac un; a dirnad dy droseddau iw herbyn, er ymddarostwng oi herwydd.
16. Ymneilltua weithieu i weddio ac i ymprydio yn ddirgel, er mwyn gwneuthur dy galon yn deimladwy o'th bechod, a'th drueni. Ystyr y gorchymynion o fesur un ac un; a dirnad dy droseddau iw herbyn, er ymddarostwng oi herwydd.
Ymddiddan byr rhwng pechadur a'i Enaid.
Och, is truan o din ydwyfi! I bale y dug pechod fi? Mi welaf ddarfod im calon fy nhwyllo i wrth fy ngwenheithio i; mi welaf, mi welaf fy mod in golledig oddieithr yr Arglwydd fy ngwaredu; Fy mhechodau, fy mhechodau, och ffieiddied peth ydwyfi! Gwaeth fy sawr in nhyb Duw, nag yw'r burgyn in fy nhyb i. Och o'r uffern bcchadurus y sydd in y gallon yma, a dybaswn ei bod in dda! Holl ddychymygion fy nghalon sydd ddrwg in oestadol: yr wyf in wan ir da, je in wrthwynebus iddo, ac in dueddol i bob drwg. Och o'r sybwll drwg yw fy ngalon, a maint o lyffaint duon sydd in ymlusco allan o honey. Och fell y mae fy mhechodau in fy nghuhuddo i, ac in rhythu eu llygaid arnafi: Y mae fy holl ddyledion in dyfod arnafi ar unwaith, pob gorchymyn sydd in rhoi cwyn arnafi am gantoedd a miloedd. Er body Mynyddoedd in fawrion nid ydynt in aneirif, er body tywod in aneirif, nid ydynt in fawrion, and gwae fi fod fy mhechodau i in aml fell y tywod, ac in fawrion fell mynyddoedd. Y mae'r pwys arnaf in drwm, oni wareda trugaredd fi darfu am danaf, a foddaf i ddyfnder y pydew diwaelod. Och fy enaid! fy ngogoniant, Ichabod ith elwir, ymadawodd dy harddwch â thy, ac aeth dy anrhydedd in wrath.
Och, ys truan o ddyn ydwyfi! I ba le y dug pechod fi? Mi welaf ddarfod im calon fy nhwyllo i wrth fy ngwenheithio i; mi welaf, mi welaf fy mod yn golledig oddieithr yr Arglwydd fy ngwaredu; Fy mhechodau, fy mhechodau, och ffieiddied peth ydwyfi! Gwaeth fy sawr yn nhyb Duw, nag yw'r burgyn yn fy nhyb i. Och o'r uffern bcchadurus y sydd yn y galon yma, a dybaswn ei bod yn dda! Holl ddychymygion fy nghalon sydd ddrwg yn oestadol: yr wyf yn wan ir da, ie yn wrthwynebus iddo, ac yn dueddol i bob drwg. Och o'r sybwll drwg yw fy ngalon, a maint o lyffaint duon sydd yn ymlusco allan o honi. Och fel y mae fy mhechodau yn fy nghuhuddo i, ac yn rhythu eu llygaid arnafi: Y mae fy holl ddyledion yn dyfod arnafi ar unwaith, pob gorchymyn sydd yn rhoi cwyn arnafi am gantoedd a miloedd. Er bod y Mynyddoedd yn fawrion nid ydynt yn aneirif, er bod y tywod yn aneirif, nid ydynt yn fawrion, ond gwae fi fod fy mhechodau i yn aml fel y tywod, ac yn fawrion fel mynyddoedd. Y mae'r pwys arnaf yn drwm, oni wareda trugaredd fi darfu am danaf, a foddaf i ddyfnder y pydew diwaelod. Och fy enaid! fy ngogoniant, Ichabod ith elwir, ymadawodd dy harddwch â thi, ac aeth dy anrhydedd yn warth.