A30210:147
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ina dechrevodd Cristion wregysu ei lwŷnau, ac ymbarodtoi iw daith: A dywedodd Ewŷllyssiwr Dâ wrtho, a dae ef at Dŷ y Deongiwr, (pan elai ef ychydig bach ymlaen oddiwrth y porth) Ac fe a barodd iddo guro wrth ei ddrŵs ef; A dywedodd wrtho, a dangosai y Deonglwr iddo bethau rhagorol. A chwedi hynnŷ fe gymmerodd Cristion ei gennad oddiwrth Ewŷllyssiwr Dâ, ac yntef hefŷd a ddywedodd wrth Gristion, bŷd dâ yr elŷch di.
Yna dechreuodd Cristion wregysu ei lwŷnau, ac ymbarodtoi iw daith: A dywedodd Ewŷllyssiwr Dâ wrtho, a dae ef at Dŷ y Deongiwr, (pan elai ef ychydig bach ymlaen oddiwrth y porth) Ac fe a barodd iddo guro wrth ei ddrŵs ef; A dywedodd wrtho, a dangosai y Deonglwr iddo bethau rhagorol. A chwedi hynnŷ fe gymmerodd Cristion ei gennad oddiwrth Ewŷllyssiwr Dâ, ac yntef hefŷd a ddywedodd wrth Gristion, bŷd dâ yr elŷch di.
Ina fe aeth Cristion rhagddo, hŷd oni ddaeth ef at Dŷ y Deonglwr, lle a curodd ef lawyer gwaith: O'r diwedd daeth un ir drws ac a ofynnodd, pwŷ oedd yno.
Yna fe aeth Cristion rhagddo, hŷd oni ddaeth ef at Dŷ y Deonglwr, lle a curodd ef lawer gwaith: O'r diwedd daeth un ir drws ac a ofynnodd, pwŷ oedd yno.
CRISTION. Sir ebŷr Cristion, ymdeithŷdd ydwŷf: Ac fe a orchymvnwŷd i mi gan un sŷdd in gydnabyddus a Gŵr dâ y Tŷ hwn alw ymma er lleshâd i mi; Ac am hvnnŷ myfi a ewŷllyssiwn ymddiddan ag ef: Fellu fe a alwodd ŵr y Tŷ, ac in y man fe a ddaeth at Gristion, ac a ofynnodd iddo pa beth yr ydŷch in ei geisio ymma?
CRISTION. Syr ebŷr Cristion, ymdeithŷdd ydwŷf: Ac fe a orchymvnwŷd i mi gan un sŷdd yn gydnabyddus a Gŵr dâ y Tŷ hwn alw ymma er lleshâd i mi; Ac am hvnnŷ myfi a ewŷllyssiwn ymddiddan ag ef: Fellu fe a alwodd ŵr y Tŷ, ac yn y man fe a ddaeth at Gristion, ac a ofynnodd iddo pa beth yr ydŷch yn ei geisio ymma?