A30210:150
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Sir ebŷr Cristion, Dŷn wŷfi a ddaeth allan o Ddinas Distŷw, ac yr wi 'n mined tua Mynŷdd Seion; Ar Gŵr sŷ'n sefŷll wrth y porth ymhen y ford hon, a ddywedodd wrthŷf os galwn i ymma, a dangosech chwi i mi bethau Godidog, y fâth ag a'm cynnorthwŷent in fy Nhaith.
CRISTION. Syr ebŷr Cristion, Dŷn wŷfi a ddaeth allan o Ddinas Distŷw, ac yr wi 'n myned tua Mynŷdd Seion; Ar Gŵr sŷ'n sefŷll wrth y porth ymhen y ffordd hon, a ddywedodd wrthŷf os galwn i ymma, a dangosech chwi i mi bethau Godidog, y fâth ag a'm cynnorthwŷent yn fy Nhaith.
Deonglwr Ina ebŷr Deonglwr, Tired i mewn; Ac mi a ddangosaf yr hŷn a fŷdd buddiol i ti. A chwedi erchi iw wâs oleu canwŷll, fe a harodd i Gristion i ddilŷn ef; Fellu ef a'i canlynodd i ystafell ddirgel: Ac in ôl gorchymŷn ⟨p. 28⟩ei Feistr, fe agorodd y gwâs rŷw ddrŵs, ac yna fe welai Gristion lûn Gŵr sobr jawn, wedi ei osod i fynu wrth y pared, ac fell hŷn yr oedd ei wêdd ef. Yr oedd ei lygaid ef gwedi eu derchafu tua 'r Nefoedd, yr oedd y llyfr goreu in ei law ef, a chyfraith gwirionedd in yscrifenedig ar ei wefusau ef, a'r Bŷd o'r tu cefn iddo; Yr oedd efe in sefŷll, fell ped fasai fe in dadlevo a Dŷnnion, ac yr oedd Coron o aur ynghrog uwch ei ben ef.
Deonglwr Yna ebŷr Deonglwr, Tyred i mewn; Ac mi a ddangosaf yr hŷn a fŷdd buddiol i ti. A chwedi erchi iw wâs oleu canwŷll, fe a harodd i Gristion i ddilŷn ef; Fellu ef a'i canlynodd i ystafell ddirgel: Ac yn ôl gorchymŷn ⟨p. 28⟩ei Feistr, fe agorodd y gwâs rŷw ddrŵs, ac yna fe welai Gristion lûn Gŵr sobr iawn, wedi ei osod i fynu wrth y pared, ac fel hŷn yr oedd ei wêdd ef. Yr oedd ei lygaid ef gwedi eu derchafu tua 'r Nefoedd, yr oedd y llyfr goreu yn ei law ef, a chyfraith gwirionedd yn yscrifenedig ar ei wefusau ef, a'r Bŷd o'r tu cefn iddo; Yr oedd efe yn sefŷll, fel ped fasai fe yn dadleuo a Dŷnnion, ac yr oedd Coron o aur ynghrog uwch ei ben ef.