A30210:164
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Mi a welaf yr awron ebŷr Cristion, may gwell ŷw disgwŷl am y pethau sŷdd i ddyfod, na thrachwantu y pethau presenol.
CRISTION. Mi a welaf yr awron ebŷr Cristion, mai gwell ŷw disgwŷl am y pethau sŷdd i ddyfod, na thrachwantu y pethau presenol.
Deonglwr. Chwi a ddywedasoch y gwir, canŷs y pethau a welir sŷ tros amser, and y pethau ni welir sŷ Dragywŷddol, (2 Corinthiaid 4.18.) And er bôd y matter fellu, etto gan fôd y pethau presenol a'n Blŷs cnawdol ni in Gymmydogion agos iw gilŷdd; A thrachefn oblegit bôd y pethau i ddyfod, a'n Synhwŷrau cnawdol ni in Ddieithraid iw gilŷdd, hynnŷ ŷw y rheswm pa ham a mae y cyntaf o'r rhain in dyfod mor fŷan i ymgyfeillachu a'u gilŷdd in garedig, a bôd yr ail in aros cŷn belled y nail oddiwrth y llall.
Deonglwr. Chwi a ddywedasoch y gwir, canŷs y pethau a welir sŷ tros amser, ond y pethau ni welir sŷ Dragywŷddol, (2 Corinthiaid 4.18.) Ond er bôd y matter fellu, etto gan fôd y pethau presenol a'n Blŷs cnawdol ni yn Gymmydogion agos iw gilŷdd; A thrachefn oblegit bôd y pethau i ddyfod, a'n Synhwŷrau cnawdol ni yn Ddieithraid iw gilŷdd, hynnŷ ŷw y rheswm pa ham a mae y cyntaf o'r rhain yn dyfod mor fŷan i ymgyfeillachu a'u gilŷdd yn garedig, a bôd yr ail yn aros cŷn belled y naill oddiwrth y llall.
Ina mi a welais y Deonglwr in ymaelŷd in law Cristion, ac in ei ledio ef i fan llê yr oedd Tân wedi gynneu wrth fagwŷr, ac un in sefŷll wrtho in bwrw lawyer o ddŵr arno un wastadol iw ddiffodd ef, etto yr oedd y tân in fflammio in uwch ac in boethach.
Yna mi a welais y Deonglwr yn ymaelŷd yn llaw Cristion, ac yn ei ledio ef i fan llê yr oedd Tân wedi gynneu wrth fagwŷr, ac un yn sefŷll wrtho yn bwrw llawer o ddŵr arno vn wastadol iw ddiffodd ef, etto yr oedd y tân yn fflammio yn uwch ac yn boethach.