A30210:176
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Pa beth a fuosti gŷnt?
Dŷn. Dywedodd y Dŷn wrtho, mi a fum tros drô in Broffessor têg blodevog in fy ngolwg fy hunan, ac yngolwg eraill hefŷd; Mi a dybiais unwaith fy môd i in y ford ir Ddinas Nefol, ac yr oedd in llawen gennif y prŷd hwnnw, pan feddyliwn yr own i yno.
Dŷn. Dywedodd y Dŷn wrtho, mi a fum tros drô yn Broffessor têg blodeuog yn fy ngolwg fy hunan, ac yngolwg eraill hefŷd; Mi a dybiais unwaith fy môd i yn y ffordd ir Ddinas Nefol, ac yr oedd yn llawen gennif y prŷd hwnnw, pan feddyliwn yr awn i yno.
CRISTION. And pa beth wŷt ti yr awron▪
CRISTION. Ond pa beth wŷt ti yr awron▪
Dŷn. Yr wŷn yr awron in Ddŷn sŷdd in lawn o Anobaith, ac fe a'm cauwŷd i yntho, megis in y cyffion haiarn ymma; Nis gallafi ddyfod allan o hono mewn môdd in y bŷd.