A30210:178
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. And pa beth wŷt ti yr awron▪
CRISTION. Ond pa beth wŷt ti yr awron▪
Dŷn. Yr wŷn yr awron in Ddŷn sŷdd in lawn o Anobaith, ac fe a'm cauwŷd i yntho, megis in y cyffion haiarn ymma; Nis gallafi ddyfod allan o hono mewn môdd in y bŷd.
Dŷn. Yr wŷn yr awron yn Ddŷn sŷdd yn llawn o Anobaith, ac fe a'm cauwŷd i yntho, megis yn y cyffion haiarn ymma; Nis gallafi ddyfod allan o hono mewn môdd yn y bŷd.
CRISTION. And pa fôdd a daethost ir cyflwr hwn.
CRISTION. Ond pa fôdd a daethost ir cyflwr hwn.
Dŷn. Peidio a wneuthum a gwilio a bôd in sobr: Myfi a adewais garreiau y ffrwŷn i gwŷmpio ar wddwf fy nhrachwantau; Mi a droseddais in erbŷn goleuni y Gair, a Daioni Duw; Myfi a ddigiais yr Ysprŷd glân, ac fe a ymadawodd a mi; Mi a demptiais y Diawl, ac fe a ddaeth attaf; Myfi a gyffrois Dduw i ddigofaint, ac fe a'm gadawodd i; A chaledais fy nghalon in y fâth fôdd, fell nas gallaf edifarhau.