A30210:193
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Weal ebŷr Cristion, I mae hŷn in ofnadwŷ; Duw a'm cynnorthwŷo i, i wilio […] bôd in sobr, ac i weddio fell a gallwŷf ochelŷd yr achos o ddrychineb y Dŷn hwn; Sir, onid ŷw hi'n brŷd i mi fined i'm ford bellach?
CRISTION. Wele ebŷr Cristion, I mae hŷn yn ofnadwŷ; Duw a'm cynnorthwŷo i, i wilio 〈…〉 bôd yn sobr, ac i weddio fel a gallwŷf ochelŷd yr achos o ddrychineb y Dŷn hwn; Syr, onid ŷw hi'n brŷd i mi fyned i'm ffordd bellach?
Deonglwr. Aros hŷd oni ddangoswŷf i ti un peth ychwaneg, a chwedi hynnŷ di a gay fined ith ford.
Deonglwr. Aros hŷd oni ddangoswŷf i ti un peth ychwaneg, a chwedi hynnŷ di a gai fyned ith ffordd.
Fellu fe ymaelodd in law Cristion drachefn, ac a'i harweiniodd ef i ystafell, llê yr oedd un in codi o'i welŷ; Ac fell yr oedd ef in gwisco ei Ddillad, yr oedd e'n crynu ac in ofni: Ina ebŷr Cristion pa ham a mae 'r Dŷn ymma in crynu fell hŷn? A'r Deonglwr a barodd iddo fynegu i Gristion yr achos o'i ddychryndod; Yntef ar hynnŷ a adroddodd wrtho freuddwŷd a welsai ef y noson honno; Mi a welais ebŷr ef y Nefoedd in duo in ddirfawr, (Matthew 24.29.) Bu hefŷd daranau a melt mor ofnadwŷ ag a crynais i gan ofn. A chwedi edrŷch i fynu, mi a welais y cymylau in ymrwŷgo mewn môdd anarferol; Ac ar hynnŷ myfi a glywais uchel lais udcorn, ac a welais ŵr hefŷd in eistedd ar Gwmwl, a miloedd neu Lu y Nefoedd gydag ef; Yr oeddent hwŷ ôll megis Tân fflamllŷd, Yr oedd y Nefoedd hefŷd ar Dân poethlud. (1 Thessaloniaid 4.16. Daniel 7.10, 13. Judas 14, 15. 2 Thessaloniaid 1.7, 8. 2 Petr 3.10.) Ina mi a glywais lêf in dywedŷd wrth y Meirw, Cyfodwch a dowch ir Farn A chyda hynnŷ y Creigiau a holltwŷd, y Beddau a agorwŷd, a'r Meirw oedd ynthŷnt a ddaethant allan: Yr oedd rhai o honŷnt in llawen jawn, ac in edrŷch tuag i fynu; And rhai a geisiasant ymguddio dan y Mynyddoedd, (Joan 5.28, 29. Luc 21.28. Datcuddiad 6.16, 17.) Ina mi a welais y Gŵr, oedd