A30210:195
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Fellu fe ymaelodd in law Cristion drachefn, ac a'i harweiniodd ef i ystafell, llê yr oedd un in codi o'i welŷ; Ac fell yr oedd ef in gwisco ei Ddillad, yr oedd e'n crynu ac in ofni: Ina ebŷr Cristion pa ham a mae 'r Dŷn ymma in crynu fell hŷn? A'r Deonglwr a barodd iddo fynegu i Gristion yr achos o'i ddychryndod; Yntef ar hynnŷ a adroddodd wrtho freuddwŷd a welsai ef y noson honno; Mi a welais ebŷr ef y Nefoedd in duo in ddirfawr, (Matthew 24.29.) Bu hefŷd daranau a melt mor ofnadwŷ ag a crynais i gan ofn. A chwedi edrŷch i fynu, mi a welais y cymylau in ymrwŷgo mewn môdd anarferol; Ac ar hynnŷ myfi a glywais uchel lais udcorn, ac a welais ŵr hefŷd in eistedd ar Gwmwl, a miloedd neu Lu y Nefoedd gydag ef; Yr oeddent hwŷ ôll megis Tân fflamllŷd, Yr oedd y Nefoedd hefŷd ar Dân poethlud. (1 Thessaloniaid 4.16. Daniel 7.10, 13. Judas 14, 15. 2 Thessaloniaid 1.7, 8. 2 Petr 3.10.) Ina mi a glywais lêf in dywedŷd wrth y Meirw, Cyfodwch a dowch ir Farn▪ A chyda hynnŷ y Creigiau a holltwŷd, y Beddau a agorwŷd, a'r Meirw oedd ynthŷnt a ddaethant allan: Yr oedd rhai o honŷnt in llawen jawn, ac in edrŷch tuag i fynu; And rhai a geisiasant ymguddio dan y Mynyddoedd, (Joan 5.28, 29. Luc 21.28. Datcuddiad 6.16, 17.) Ina mi a welais y Gŵr, oedd ⟨p. 38⟩in eistedd ar y Cwmwl, in agorŷd llyfrau, ac in erchi ir Bŷd nesu. (Matthew 25.32. Datcuddiad 20.12, 13.) Etto yr oedd o achos y fflam danllŷd oedd in dyfod o'i flaen ef, ennŷd o lê rhyngtho ef a hwŷnt, megis rhwng y Barnwr ar yr orseddfaingc a'r Carcharorion wrth y Barr; Myfi a glywais hefŷd gyhoeddi (ir sawl oedd in canlŷn y Gŵr oedd in eistedd ar y Cwmwl) Cesglwch ynghŷd yr Efrau, a'r us, a'r Sofl▪ a bwriwch hwŷnt ir llŷn o Dân, (Matthew 13 30 & 3.12. Malachi 4.2.) Ac a'r hynnŷ yr ymegorodd y pwll di▪waelod, in union ynghŷlch y fan yr oeddwn i in sefŷll arno; A daeth lawyer o fŵg, a marwor tanllŷd, a chrochleisiau dychrynllŷd allan o'i safn; A dywedwŷd hefŷd wrth y gweinidogion, Cesglwch fy 'ngwenith i'm yscubor, (