A30210:21
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ina ebŷr yr Efangylwr, os ydwŷt ti in y cyflwr hwnnw, pa ham yr wŷt in sefŷll in llonŷdd? Yntef a attebodd am na wn i i ba lê i sinned: yna'fo roes iddo rôl o Femrwn, ac yr oedd in yscrifennedig ynthi, ffowch rhag y digofaint a fŷdd. (Matthew. 3.7.)
Yna ebŷr yr Efangylwr, os ydwŷt ti yn y cyflwr hwnnw, pa ham yr wŷt yn sefŷll yn llonŷdd? Yntef a attebodd am na wn i i ba lê i syned: yna'fo roes iddo rôl o Femrwn, ac yr oedd yn yscrifennedig ynthi, ffowch rhag y digofaint a fŷdd. (Matthew. 3.7.)
Fe ddarlenodd y Gŵr y geiriau, a chan edrŷch ar yr Efangylwr in grâff, fe a ofynnodd iddo, i ⟨p. 4⟩ba lê a ffôaf? Ina ebŷr yr Efangylwr, (gan ddangos a'i fŷs tros Faes mawr) A weli di y porth bychan accw? Na welaf ebŷr y Gŵr. Ina ebŷr y llall, a weli di y Goleini disclair accw? Yntef a'i hattebodd ef, mi dybygwn fy môd in ei welled ef, Ina ebŷr yr Efangylwr wrtho, cadw dy olwg in wastol ar y goleini accw, a dôs in union tuag atto; Ac fellu a cei di welled y porth; A phan gurech wrtho fe ddangosir i ti beth sŷdd raid i ti ei wneuthur. (Matthew. 7.14. Psalm. 119.105. Joan. 9.39. 2 Peter. 1.19.)
Fe ddarlenodd y Gŵr y geiriau, a chan edrŷch ar yr Efangylwr yn grâff, fe a ofynnodd iddo, i ⟨p. 4⟩ba lê a ffôaf? Yna ebŷr yr Efangylwr, (gan ddangos a'i fŷs tros Faes mawr) A weli di y porth bychan accw? Na welaf ebŷr y Gŵr. Yna ebŷr y llall, a weli di y Goleini disclair accw? Yntef a'i hattebodd ef, mi dybygwn fy môd yn ei weled ef, Yna ebŷr yr Efangylwr wrtho, cadw dy olwg yn wastol ar y goleini accw, a dôs yn union tuag atto; Ac fellu a cei di weled y porth; A phan gurech wrtho fe ddangosir i ti beth sŷdd raid i ti ei wneuthur. (