A30210:252
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Yr wi'n gobeithio cael gweled yr hwn a fu farw ar y Gross, in fŷw yno; Ac yr wŷf in gobeithio a rhŷddheir fi yno oddiwrth yr hôll wendid sŷdd in fy aflonyddu i hŷd y dŷdd hwn; I maent in dywedŷd hefŷd nad oes dim marwolaeth yno; Ac mi a gâf drigo yno gyda'r fâth Gymdeithion ar sŷdd oreu gennif; Ac o ddywedŷd wrthŷch y gwir, yr wŷf in caru yr hwn a fu farw ar y Gross, am iddo fe fy esmwŷthau i o'm Bauch (Luc 7.47.) ac i mae fy aflendid oddifewn in ofudus i mi; Ac yr wŷf in ewŷllyssio bôd in y man hwnnw llê na fŷdd nac afiechŷd na marwolaeth mwŷ; A chyda'r Cymdeithion a fyddant in crio in wastadol, Sanct, Sanct, Sanct. (Esaŷ 6.3.)
CRISTION. Yr wi'n gobeithio cael gweled yr hwn a fu farw ar y Groes, yn fŷw yno; Ac yr wŷf yn gobeithio a rhŷddheir fi yno oddiwrth yr hôll wendid sŷdd yn fy aflonyddu i hŷd y dŷdd hwn; I maent yn dywedŷd hefŷd nad oes dim marwolaeth yno; Ac mi a gâf drigo yno gyda'r fâth Gymdeithion ar sŷdd oreu gennif; Ac o ddywedŷd wrthŷch y gwir, yr wŷf yn caru yr hwn a fu farw ar y Groes, am iddo fe fy esmwŷthau i o'm Bauch (Luc 7.47.) ac i mae fy aflendid oddifewn yn ofudus i mi; Ac yr wŷf yn ewŷllyssio bôd yn y mann hwnnw llê na fŷdd nac afiechŷd na marwolaeth mwŷ; A chyda'r Cymdeithion a fyddant yn crio yn wastadol, Sanct, Sanct, Sanct. (Esaŷ 6.3.)
Ina gofynnodd Cariad i Gristion, a oes i chwi dylwŷth? A ydŷch chwi in ŵr priod?
Yna gofynnodd Cariad i Gristion, a oes i chwi dylwŷth? A ydŷch chwi yn ŵr priod?
CRISTION. I mae gennif Wraig, a phedwar o Blant bychain.