A30210:274
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Wedi hynnŷ hwŷ a ddarllennasant mewn rhan ⟨p. 60⟩arall o lyfrau coffadwriaethau'r Tŷ; A dangoswŷd yno mor ewŷllysgar oedd eu Harglwŷdd i dderbŷn iw ffafor bôb un, je pôb un er iddŷnt gŷnt amherchi ei Berson a'i ffŷrdd ef, os troent, ac os devant yr awron atto es▪ (Joan 6.37.) Yr oedd ymma hefŷd amrŷw o Hŷstoriau am lawyer o bethau enwog eraill, y rhai a gafodd Cristion eu gweled ôll, self Hŷstoriau hên a newŷdd ynghŷd a phrophwŷdoliaethau ynghŷlch pethau a gyflawnir in eu hamser in siccr, er dychrŷn a syndod i elynion Arglwŷdd y Brŷn, ac er cysur a diddanwch i Bererinod.
Wedi hynnŷ hwŷ a ddarllennasant mewn rhan ⟨p. 60⟩arall o lyfrau coffadwriaethau'r Tŷ; A dangoswŷd yno mor ewŷllysgar oedd eu Harglwŷdd i dderbŷn iw ffafor bôb un, ie pôb un er iddŷnt gŷnt amherchi ei Berson a'i ffŷrdd ef, os troent, ac os deuant yr awron atto es▪ (Joan 6.37.) Yr oedd ymma hefŷd amrŷw o Hŷstoriau am lawer o bethau enwog eraill, y rhai a gafodd Cristion eu gweled ôll, sef Hŷstoriau hên a newŷdd ynghŷd a phrophwŷdoliaethau ynghŷlch pethau a gyflawnir yn eu hamser yn siccr, er dychrŷn a syndod i elynion Arglwŷdd y Brŷn, ac er cysur a diddanwch i Bererinod.
Dranoeth hwŷ a'i tywŷsasant ef ir Arf-dŷ, ac a ddangosasant iddo yno bôb mâth o Arfogaeth, y rhai a barodtoisai eu Harglwŷdd hwŷnt i Bererinod, megis Cleddŷf, Tarian, Helm, Dwŷfronneg; Pôb rhŷw Weddi, ac Esgidiau na heneiddient; Ac yr oedd yno ddigon o honŷnt i arfogi cymaint o gwŷr i wasanaeth eu Harglwŷdd, ac sŷdd o Sêr in y Nefoedd. (Ephefiaid 6.14 &c.)
Dranoeth hwŷ a'i tywŷsasant ef ir Arf-dŷ, ac a ddangosasant iddo yno bôb mâth o Arfogaeth, y rhai a barodtoisai eu Harglwŷdd hwŷnt i Bererinod, megis Cleddŷf, Tarian, Helm, Dwŷfronneg; Pôb rhŷw Weddi, ac Esgidiau na heneiddient; Ac yr oedd yno ddigon o honŷnt i arfogi cymaint o gwŷr i wasanaeth eu Harglwŷdd, ac sŷdd o Sêr yn y Nefoedd. (Ephefiaid 6.14 &c.)