A30210:277
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A chwedi cyfodi in foreu mewn bwriad i fined rhagddo, fe attolygodd y Teulu arno ef aros hýd dranoeth; Ac yna (ebŷr nhwŷ) Nyni a ddangoswn i chwi (os bŷdd y diwrnod in eglur) y Mynyddoedd hyfrŷd, y rhai (ebŷr nhwŷ) a chwanegant at eich cysur chwi, am fôd y mynyddoedd hynnŷ in nâs at y Porthladd dymunol na 'r man yr ydŷch yntho in bresennol; Fellu fe a gŷdsynniodd, ac a arhosodd yno y noson honno; A'r boreu nesaf hwŷ a aethant ag ef i Nen y Tŷ, ac a archasant iddo edrŷch tua'r Dehau, ac fe a wnaeth fellu; Ac weal fe a ganfu ymhell oddiwrtho wlâd hyfrŷd, wedi ei harddu a choedŷdd, gwinllanoedd, ffrwŷthau hyfrŷd o bôb rhŷw, a blodau hefŷd, a ffynhonnau hyfrŷd jawn (Esaŷ 33.16, 17.) Ina fe a ofynnodd henw'r wlâd; A nhwŷthau a'i hattebasant ef may Tir Emmanuel oedd ell henw hi; Ac i mae hi (ebûr nhwŷ) mor gyffredin ir hôll Bererinod i ddyfod iddi, ac i gael croeso ynthi ag ydŷw 'r Brŷn ymma; A phan ddelŷch di i'r wlâd honno di a eli ganfod Porth y Ddinas Nefol oddiyno, trwŷ gyfarwŷddiad y Bugeiliaid sŷ'n bŷw in ill hwnnw.
A chwedi cyfodi yn foreu mewn bwriad i fyned rhagddo, fe attolygodd y Teulu arno ef aros hýd dranoeth; Ac yna (ebŷr nhwŷ) Nyni a ddangoswn i chwi (os bŷdd y diwrnod yn eglur) y Mynyddoedd hyfrŷd, y rhai (ebŷr nhwŷ) a chwanegant at eich cysur chwi, am fôd y mynyddoedd hynnŷ yn nâs at y Porthladd dymunol na 'r mann yr ydŷch yntho yn bresennol; Fellu fe a gŷdsynniodd, ac a arhosodd yno y noson honno; A'r boreu nesaf hwŷ a aethant ag ef i Nen y Tŷ, ac a archasant iddo edrŷch tua'r Dehau, ac fe a wnaeth fellu; Ac wele fe a ganfu ymhell oddiwrtho wlâd hyfrŷd, wedi ei harddu a choedŷdd, gwinllanoedd, ffrwŷthau hyfrŷd o bôb rhŷw, a blodau hefŷd, a ffynhonnau hyfrŷd iawn (Esaŷ 33.16, 17.) Yna fe a ofynnodd henw'r wlâd; A nhwŷthau a'i hattebasant ef mai Tir Emmanuel oedd el henw hi; Ac i mae hi (ebûr nhwŷ) mor gyffredin ir hôll Bererinod i ddyfod iddi, ac i gael croeso ynthi ag ydŷw 'r Brŷn ymma; A phan ddelŷch di i'r wlâd honno di a elli ganfod Porth y Ddinas Nefol oddiyno, trwŷ gyfarwŷddiad y Bugeiliaid sŷ'n bŷw yn y lle hwnnw.
Ina fe a ymbarodtodd i gychwŷn, ac yr oeddŷnt hwŷthau in fodlon i hynnŷ, And in gyntaf (ebŷr nhwŷ) Own drachefn ir Arf-dŷ, a hwŷ a aethant fellu, ac a'i gwiscasant ef yno o wadn y troed hŷd y pen ag Arfau profedig, fell a gallai ef ymddiffŷn ei hunan os digwŷddeu i nêb ruthro arno ar y ford; A chwedi ei Arfogi ef fell hŷn, fe a rodiodd gyda ei gyfeillion ir porth, ac a ofynnodd ir porthor a welsai ef un Pererin in mined heibio? A'r Porthor a'i hattebodd ef, Do.