A30210:298
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Apol-lion. Ystria drachefn pan fyddi in Bwŷllog o Gristion, pa beth yr wŷti in debŷg i gyfarfod ag ef in y ford yr wŷti in mined; Dydi a wŷddost fôd Gweision yr hwn yr wŷt ti yr awron wedi ei gymerŷd in lle'th Arglwŷdd, y rhan mwŷaf in dyfod i ddiwedd drŵg, am eu bôd nhwŷ in fy ngwrthwŷnebu i a'm ffŷrdd; Pa sawl un o honŷnt hwŷ a roddwŷd i farwolaeth gywilyddus? A lle yr wŷt in cyfrif ei wasanaeth ef in well na'r eiddo fi: Gwŷhŷdd hŷn, na ddaeth ef erioed etto o'r man a mae fe yntho. i waredu nêb (o'r rhai a'i gwasanaethasant ef) o'm dwŷlo i; And amdanafi, Pa sawl gwaith (fell y gŵŷr y Bŷd in ddigon dâ) a gwaredais i, nail a'i trwŷ nerth, neu trwŷ ddichell (y rhai a'm gwasanaethasant i in ffyddlon) odditan ei ddwŷlo ef a'i eiddo, er iddŷnt eu dal hwŷnt in eu rhwŷdau; Ac fellu i'th waredaf ditheu os mini
Apol-lyon. Ystria drachefn pan fyddi yn Bwŷllog o Gristion, pa beth yr wŷti yn debŷg i gyfarfod ag ef yn y ffordd yr wŷti yn myned; Dydi a wŷddost fôd Gweision yr hwn yr wŷt ti yr awron wedi ei gymerŷd yn lle'th Arglwŷdd, y rhan mwŷaf yn dyfod i ddiwedd drŵg, am eu bôd nhwŷ yn fy ngwrthwŷnebu i a'm ffŷrdd; Pa sawl un o honŷnt hwŷ a roddwŷd i farwolaeth gywilyddus? A lle yr wŷt yn cyfrif ei wasanaeth ef yn well na'r eiddo fi: Gwŷhŷdd hŷn, na ddaeth ef erioed etto o'r mann a mae fe yntho. i waredu nêb (o'r rhai a'i gwasanaethasant ef) o'm dwŷlo i; Ond amdanafi, Pa sawl gwaith (fel y gŵŷr y Bŷd yn ddigon dâ) a gwaredais i, naill a'i trwŷ nerth, neu trwŷ ddichell (y rhai a'm gwasanaethasant i yn ffyddlon) odditan ei ddwŷlo ef a'i eiddo, er iddŷnt eu dal hwŷnt yn eu rhwŷdau; Ac fellu i'th waredaf ditheu os mynni
CRISTION. Ei bwrpas ef trwŷ beidio in bresennol, a gwaredu rhai o'i bobl o'th garcharau a'th gadwŷnau di, ydŷw er mwŷn cael prawf a ydŷnt hwŷ in ei garu ef, ac a lynant hwŷ wrtho ef hŷd y diwedd (Datcuddiad 2.10.) Ac am y drŵg ddihenŷdd yr wŷti in dywedŷd fôd rhai o honŷnt in dyfod iddo, i mae hynnŷ in dra gogoneddus in eu golwg hwŷnt; Canŷs nid ydŷnt hwŷ in disgwŷl nemmawr am warediad presennol; Oblegit eu bôd in aros am eu gogoniant; Yr hwn a gânt hwŷ in ddiammeu ei fwŷnhau, pan ddelo eu Tywŷsog in ei ogoniant gyda ei Angylion gogoneddus ⟨p. 66⟩