TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DIN OR BID HWN I'R BID A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DYN OR BYD HWN I'R BYD A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.
pp. 1–206863 passagespart 8 of 22
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Apol-lion. Nid oes un Tywŷsog a gŷll ei Ddeiliaid cŷn ysgafned a hŷn; Ac myfi a wnaf fyngoreu nas collwŷf inneu monot titheu; And gan dy fôd ti in achwŷn am dy wasanaeth a'th gyflog (bŷdd fodlon i fined in ôl) ac yr wŷfi'n addaw ymma roddi i ti ran o'r pethau goreu sŷdd in ein gwlâd ni.
Apol-lyon. Nid oes un Tywŷsog a gŷll ei Ddeiliaid cŷn ysgafned a hŷn; Ac myfi a wnaf fyngoreu nas collwŷf inneu monot titheu; Ond gan dy fôd ti yn achwŷn am dy wasanaeth a'th gyflog (bŷdd fodlon i fyned yn ôl) ac yr wŷfi'n addaw ymma roddi i ti ran o'r pethau goreu sŷdd yn ein gwlâd ni.
CRISTION. Myfi a ymroddais fy hunan i fôd in wasanaethwr i Frenin y Brenhinoedd, a pha fôdd a gallafi drwŷ onestrwŷdd dory ag ef i ddychwelŷd gyda thy?
CRISTION. Myfi a ymroddais fy hunan i fôd yn wasanaethwr i Frenin y Brenhinoedd, a pha fôdd a gallafi drwŷ onestrwŷdd dorri ag ef i ddychwelŷd gyda thi?
Apol-lion. Tydi a wnaethost in hŷn in ôl y Ddihareb, Newid Drŵg am Waeth; And i mae'n arferol ir rhai sŷ'n eu haddef eu hunain eu bôd hwŷnt in weision iddo ef, ar ôl ennŷd fechan ei adel ef, a dychwelŷd attafi; Gwna ditheu fellu a bŷdd pôb peth in ddâ.
Apol-lyon. Tydi a wnaethost yn hŷn yn ôl y Ddihareb, Newid Drŵg am Waeth; Ond i mae'n arferol ir rhai sŷ'n eu haddef eu hunain eu bôd hwŷnt yn weision iddo ef, ar ôl ennŷd fechan ei adel ef, a dychwelŷd attafi; Gwna ditheu fellu a bŷdd pôb peth yn ddâ.
CRISTION. Myfi a roddais iddo ef fy nghrêd, ac a dyngais a byddwn i ufudd iddo; A pha fôdd a gallafi dynnu'n ôl oddiwrth hŷn, heb gael fy nghrogi fell Bradwr?