A30210:30
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Na wnaf; (ebŷr Cristion) canŷs mi a osodais fy law ar yr Aradr. (Luc 9.62.)
CRISTION. Na wnaf; (ebŷr Cristion) canŷs mi a osodais fy llaw ar yr Aradr. (Luc 9.62.)
Cyndŷn. Dowch gan hynnŷ (ebŷr cyndŷn) fy'nghymydog Medal, a dychwelwn adref hebddo: I mae brawdoliaeth o ddynnion penweinied, y rhain (pan dderbyniant rŷw opiniwn iw pennau) ydŷnt ddoethach in eu Golwg eu hun na Selth ⟨p. 6⟩wŷr in adrodd rheswm.
Cyndŷn. Dowch gan hynnŷ (ebŷr cyndŷn) fy'nghymydog Meddal, a dychwelwn adref hebddo: I mae brawdoliaeth o ddynnion penweinied, y rhain (pan dderbyniant rŷw opiniwn iw pennau) ydŷnt ddoethach yn eu Golwg eu hun na Selth ⟨p. 6⟩wŷr yn adrodd rheswm.
Medal. Peidiwch ag ymremial ebŷr Medal, os gwîr a ddywaid ein cymmydog Cristion, i mae'r pethau a mae efe in eu ceisio in well na'r cwbl o'n meddiannau ni; Mi glown ar fy nghalon fined gydag ef.
Meddal. Peidiwch ag ymremial ebŷr Meddal, os gwîr a ddywaid ein cymmydog Cristion, i mae'r pethau a mae efe yn eu ceisio yn well na'r cwbl o'n meddiannau ni; Mi glown ar fy nghalon fyned gydag ef.