A30210:307
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Apol-lion ar hŷn (wedi cael y fâth gyfleu) a ddaeth nesnes at Cristion; A chan ymryson ag ef, a'i taflodd ef i lawr mewn môdd creulon, a chyda hynnŷ fyrthiodd cleddŷf Cristion allan o'i law ef; Ina ebŷr Apol.lion wrth Gristion 'rwi'n siŵr o honoti yr awron; A chan gwŷmpio arno ef, fe a'i llethodd ef agos i farwolaeth, hŷdoni ddechrevodd Cristion ofni am ei fywŷd; And fell yr oedd Duw in mynnu, tra yr ydoedd Apol.lion ar roddi ⟨p. 68⟩ei ddyrnod diwaethaf iw lâdd ef, fe a estynnodd Cristion ei law allan in egniol, ac a ymaelodd in ei gleddŷf, ac a ddywedodd, Na lawenhycha i'm herbŷn O fy Ngelŷn! Pan syrthiwŷf mi a gyfodaf drachefn (Mica• 7.8) A chyda hynnŷ efe a roddodd frâth dwŷs i Apol-lion, yr hwn a wnaeth iddo gilio▪ megis un wedi derbŷn ei friw marwol: Cristion wrth welled hynnŷ, a gurodd arno ef drachefn, gan ddywedŷd; In y pethau hŷn ôll, yr ŷm ni in fwŷ nâ choncwerwŷr trwŷ'r hwn a'n carodd ni; Ac ar hynnŷ Apol-lion fell Draig a dannodd ei adenŷdd ar lêd, ac a frysiodd ymaith, fell na welodd Cristion mono mwŷ (Rhufeinaid 8.37. Jaco 4.7.)
Apol-lyon ar hŷn (wedi cael y fâth gyfleu) a ddaeth nesnes at Cristion; A chan ymryson ag ef, a'i taflodd ef i lawr mewn môdd creulon, a chyda hynnŷ fyrthiodd cleddŷf Cristion allan o'i law ef; Yna ebŷr Apol.lyon wrth Gristion 'rwi'n siŵr o honoti yr awron; A chan gwŷmpio arno ef, fe a'i llethodd ef agos i farwolaeth, hŷdoni ddechreuodd Cristion ofni am ei fywŷd; Ond fel yr oedd Duw yn mynnu, tra yr ydoedd Apol.lyon ar roddi ⟨p. 68⟩ei ddyrnod diwaethaf iw lâdd ef, fe a estynnodd Cristion ei law allan yn egniol, ac a ymaelodd yn ei gleddŷf, ac a ddywedodd, Na lawenhycha i'm herbŷn O fy Ngelŷn! Pan syrthiwŷf mi a gyfodaf drachefn (Mica• 7.8) A chyda hynnŷ efe a roddodd frâth dwŷs i Apol-lyon, yr hwn a wnaeth iddo gilio▪ megis un wedi derbŷn ei friw marwol: Cristion wrth weled hynnŷ, a gurodd arno ef drachefn, gan ddywedŷd; Yn y pethau hŷn ôll, yr ŷm ni yn fwŷ nâ choncwerwŷr trwŷ'r hwn a'n carodd ni; Ac ar hynnŷ Apol-lyon fel Draig a dannodd ei adenŷdd ar lêd, ac a frysiodd ymaith, fel na welodd Cristion mono mwŷ (Rhufeinaid 8.37. Iaco 4.7.)