A30210:378
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac arôl i Gristion a ffyddlon fined ymlaen oddiyno, mi a welwn in fy mreuddwŷd ŵr a elwir Chwedleugar in cyfarfod a nhwŷ; Yr oedd ef in ŵr mawr o gorpholaeth, ac in degcach yr olwg arno o bell nag in agos; A gofynnodd ffyddlon iddo ef, y cyfaill i bale yr ewch chwi? A ydŷch chwi in siwrneio tua 'r wlâd Nefol?
Ac arôl i Gristion a ffyddlon fyned ymlaen oddiyno, mi a welwn yn fy mreuddwŷd ŵr a elwir Chwedleugar yn cyfarfod a nhwŷ; Yr oedd ef yn ŵr mawr o gorpholaeth, ac yn degcach yr olwg arno o bell nag yn agos; A gofynnodd ffyddlon iddo ef, y cyfaill i ba le yr ewch chwi? A ydŷch chwi yn siwrneio tua 'r wlâd Nefol?
Chwedleugar. Yr wŷfi in mined tua 'r wlâd honno.
Chwedleugar. Yr wŷfi yn myned tua 'r wlâd honno.
Ffyddlon. Os fellu, rwi 'n gobeithio cael eich cyfeillich chwi.
Chwedleugar. Mi a fyddaf o ewŷllŷs fy nghalon in gydymaith i chwi.