A30210:384
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ffyddlon. I mae hynnŷ in beth iw dosturio, canŷs ⟨p. 88⟩pethau Duw in haeddu adroddiad ein tafodau am danŷnt ymma ar y ddaiar oflaen dim arall.
Ffyddlon. I mae hynnŷ yn beth iw dosturio, canŷs ⟨p. 88⟩pethau Duw yn haeddu adroddiad ein tafodau am danŷnt ymma ar y ddaiar oflaen dim arall.
Chwedleugar. Yr wi 'n dra bodlon i chwi, canŷs i mae 'ch ymadroddion in lawn o reswm dâ: Pa beth sŷ mor hyfrŷd, ac mor fuddiol ag ymddiddan am bethau Duwiol?
Chwedleugar. Yr wi 'n dra bodlon i chwi, canŷs i mae 'ch ymadroddion yn llawn o reswm dâ: Pa beth sŷ mor hyfrŷd, ac mor fuddiol ag ymddiddan am bethau Duwiol?
Pa beth sŷ mor hyfrŷd (os ydŷw Dŷn in cymmerŷd hyfrydwch mewn pethau rhyfeddol) os bŷdd in hyfrŷd gan Ddŷn chwedleva am Historiau, neu Ddirgeledigaethau mowrion; Neu os bŷdd Dŷn in caru ymddiddan am Wrthiau, Rhyfeddodau, neu Arwŷddion; Ym mha le a caiff ef y pethau hŷn wedi eu coffau mor hyfrŷd, a'i hyscrifennu mor lluniedd, ag in yr yscrythur lân.
Pa beth sŷ mor hyfrŷd (os ydŷw Dŷn yn cymmerŷd hyfrydwch mewn pethau rhyfeddol) os bŷdd yn hyfrŷd gan Ddŷn chwedleua am Historiau, neu Ddirgeledigaethau mowrion; Neu os bŷdd Dŷn yn caru ymddiddan am Wrthiau, Rhyfeddodau, neu Arwŷddion; Ym mha le a caiff ef y pethau hŷn wedi eu coffau mor hyfrŷd, a'i hyscrifennu mor lluniedd, ag yn yr yscrythur lân.