A30210:413
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ffyddlon. I mae hŷn in dwŷn ar gôf i mi y peth a ddywedodd Moses am yr Anifail glân; I mae ef in y fâth un, ar sŷdd in hollti 'r ewin ac in cnoi ei gîl (Leviticus 11.3.) Nid yr hwn sŷ 'n hollti 'r ewin in unic, neu in cnoi ei gîl in unic sŷdd lân, and yr hwn sŷ 'n gwneuthur y ddau; I mae'r yscyfarnog in cnoi ei chîl, and er hynnŷ i mae hi 'n aflan, am nad ŷw hi in hollti yr ewin; Ac mewn gwirionedd i mae Meistr Chwedleugar in gyffelib ir yscyfarnog; I mae ef in cnoi 'r cil, i mae fe'n ceisio gwŷbodaeth trwŷ fyfyrio ar y Gair; And nid ŷw ef in Forchogi'r ewin, nid ŷw ef in ymado a ford pechaduriaid; And megis yr yscyfarnog, i mae gantho droed Cî neu Arth, ac am hynnŷ mae ef in aflan.
Ffyddlon. I mae hŷn yn dwŷn ar gôf i mi y peth a ddywedodd Moses am yr Anifail glân; I mae ef yn y fâth un, ar sŷdd yn hollti 'r ewin ac yn cnoi ei gîl (Leviticus 11.3.) Nid yr hwn sŷ 'n hollti 'r ewin yn unic, neu yn cnoi ei gîl yn unic sŷdd lân, ond yr hwn sŷ 'n gwneuthur y ddau; I mae'r yscyfarnog yn cnoi ei chîl, ond er hynnŷ i mae hi 'n aflan, am nad ŷw hi yn hollti yr ewin; Ac mewn gwirionedd i mae Meistr Chwedleugar yn gyffelib ir yscyfarnog; I mae ef yn cnoi 'r cil, i mae fe'n ceisio gwŷbodaeth trwŷ fyfyrio ar y Gair; Ond nid ŷw ef yn Forchogi'r ewin, nid ŷw ef yn ymado a ffordd pechaduriaid; Ond megis yr yscyfarnog, i mae gantho droed Cî neu Arth, ac am hynnŷ mae ef yn aflan.
CRISTION. Myfi a anghwanegaf un peth arall; I mae Paul in galw Chwedleuwŷr mawr (y rhai sŷdd heb râs in eu calonnau) in Efŷdd in seinio, a Symbal in tingcian; Hynnŷ ŷw, fell i mae fe in deonglu y geiriau mewn lle arall, Pethau di-enaid ydŷnt, self in rhoddi sain in unic, a dim and hynnŷ: Pethau di-enaid ydŷnt, hynnŷ ŷw Dynnion ydŷnt heb wîr ffŷdd, a grâs yr Efengŷl in eu calonnau; A thrwŷ ganlyniaeth I maent in ⟨p. 95⟩gyfrŷw ray, na chyfrifir monŷnt hwŷ bŷth in Nheŷrnas Nefoedd, ymhlith y rhai sŷdd in Blant y Bywŷd; Er ei bôd nhwŷ'n seinio wrth chwedleva, Fell pedfai dafodau neu Leferŷdd Angylion ganddŷnt (1 Corinthiaid 13.12. & 14.7.)