A30210:465
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And rhai o'r fair, wrth graffu in well ar y Pererinod, ac heb farnu in fyrbwŷll amdanŷnt megis eraill, a ddechrevasant geryddu a beio'r bobl gyffredin, am eu bôd nhw'n wastadol in gwneuthur cam a'r Dieithriaid ymma in y fâth fôdd dirmygus: Hwŷthau in llidiog a attebasant y sawl oedd in eu ceryddu nhw, gan ddywedŷd wrthŷnt, eu bôd nhw cynddrwg a'r Gwŷr oedd in y Cyffion, a'u bôd hefŷd (mewn pôb tebŷgoliaeth) mewn cyttundeb a hwŷnt, am eu bôd in pledio trostŷnt; Ac o herwŷdd hynnŷ, a caent fôd in gŷd-gyfranogion o'u haflwŷdd hwŷnt; A'r lleill ⟨p. 110⟩a dywedasant, am ddim ar a welsent hwŷ, fôd y dynnion in llonŷdd ac in sobor, heb chwennŷch drŵg i neb; A bôd bagad in marchnadta in y fair, y rhai a haeddent eu carcharu, je a'u gosod in y Pilwri in hytrach na'r Dieithraid ymma; A chwedi ymgegu digon a'i gllŷdd (a'r Pererinod trwŷ'r hôll amser in eu dwŷn eu hunain in doeth, ac in bwŷllog jawn ger eu bron hwŷnt) pobl y fair a rŷthrasant y nail ar y llall, gan guro a chlwŷfo'r nail y llall.
Ond rhai o'r ffair, wrth graffu yn well ar y Pererinod, ac heb farnu yn fyrbwŷll amdanŷnt megis eraill, a ddechreuasant geryddu a beio'r bobl gyffredin, am eu bôd nhw'n wastadol yn gwneuthur cam a'r Dieithriaid ymma yn y fâth fôdd dirmygus: Hwŷthau yn llidiog a attebasant y sawl oedd yn eu ceryddu nhw, gan ddywedŷd wrthŷnt, eu bôd nhw cynddrwg a'r Gwŷr oedd yn y Cyffion, a'u bôd hefŷd (mewn pôb tebŷgoliaeth) mewn cyttundeb a hwŷnt, am eu bôd yn pledio trostŷnt; Ac o herwŷdd hynnŷ, a caent fôd yn gŷd-gyfranogion o'u haflwŷdd hwŷnt; A'r lleill ⟨p. 110⟩a dywedasant, am ddim ar a welsent hwŷ, fôd y dynnion yn llonŷdd ac yn sobor, heb chwennŷch drŵg i neb; A bôd bagad yn marchnadta yn y ffair, y rhai a haeddent eu carcharu, ie a'u gosod yn y Pilwri yn hytrach na'r Dieithraid ymma; A chwedi ymgegu digon a'i gllŷdd (a'r Pererinod trwŷ'r hôll amser yn eu dwŷn eu hunain yn ddoeth, ac yn bwŷllog iawn ger eu bron hwŷnt) pobl y ffair a rŷthrasant y naill ar y llall, gan guro a chlwŷfo'r naill y llall.