A30210:503
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. A ydŷch chwi'n ŵr priodol?
Neilltuol fwriad. Ydwŷs, ac i mae fy ngwraig i in lawn o rinweddau dâ, a merch ydŷw hi, ir Arglwŷddes Rhagrithiol; A chan fôd ei thylwŷth hi'n anrhydeddus, hwŷ a roesant y fâth ddygiad i fynu iddi, fell a meidr hi ei hymddwŷn ei hunan in weddaidd, in gystal oflaen y Tywŷsogion ac oflaen y cyffredin; Gwir ŷw, fôd rhagor mewn crefŷdd rhyngom ni a'r gwŷr or grefŷdd ddiwŷdiaf▪ Etto nid ŷw hynnŷ and mewn dau o byngciau bychain; In gyntaf, nid ydŷm ni in ymdrechu un amser i rwŷfo in erbŷn y gwŷnt ar Llanw; In Ail, yr ydŷm ni bôb amser in dra awuddus i fôd in grefyddol, pan fo crefŷdd in mined in ei gwisg Arian; Canŷs dâ jawn gennŷm rodio gyda hi in yr heolŷdd, os bŷdd yr Haul in tywŷnnu arni, a'r bobl in ei chlodfori.
Neilltuol fwriad. Ydwŷs, ac i mae fy ngwraig i yn llawn o rinweddau dâ, a merch ydŷw hi, ir Arglwŷddes Rhagrithiol; A chan fôd ei thylwŷth hi'n anrhydeddus, hwŷ a roesant y fâth ddygiad i fynu iddi, fel a meidr hi ei hymddwŷn ei hunan yn weddaidd, yn gystal oflaen y Tywŷsogion ac oflaen y cyffredin; Gwir ŷw, fôd rhagor mewn crefŷdd rhyngom ni a'r gwŷr or grefŷdd ddiwŷdiaf▪ Etto nid ŷw hynnŷ ond mewn dau o byngciau bychain; Yn gyntaf, nid ydŷm ni yn ymdrechu un amser i rwŷfo yn erbŷn y gwŷnt ar Llanw; Yn Ail, yr ydŷm ni bôb amser yn dra awuddus i fôd yn grefyddol, pan fo crefŷdd yn myned yn ei gwisg Arian; Canŷs dâ iawn gennŷm rodio gyda hi yn yr heolŷdd, os bŷdd yr Haul yn tywŷnnu arni, a'r bobl yn ei chlodfori.
Ina Cristion a drôdd ychydig o'r neilltu at ei gydymaith Gobeithiol, ac a ddywedodd wrtho, rwi'n tybied may Meistir Neilltuol-fwriad o Drêf Tegymadrodd ŷw'r dŷn hwn; Ac os efe ydŷw'r Gŵr, i mae gennŷm in ein cwmpeini cŷn benned cnâf a'r pennaf in y wlâd hon; Ina ebŷr Gobeithiol gofynnwch iddo beth ŷw ei enw ef; In siwr mi debygwn nas dylai ef gywilyddio o ddatcuddio