A30210:521
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Neilltuol-fwriad. Yr oeddent hwŷ in ôl eu pengaledrwŷdd, in barnu may eu dyledswŷdd hwŷ ydoedd i deithio drwŷ bôb tywŷdd, a minneu wŷf in disgwŷl am wŷnt a Llanw, Y maent hwŷ am fentro y cwbl ôll ar a feddont dross Dduw mewn munŷd, a minneu ydwŷf in diswŷl pôb odfa i siccrhau fy enioes, a'm golud; I maent hwŷ am ddadlu eu crefŷdd, pe byddei'r hôll Fŷd in eu herbŷn; And rwŷf innau am grefŷdd cŷn ⟨p. 124⟩belled, ac a bytho'r amseroedd, a'm diogelwch sy hun in rhoddi lle i hynnŷ; I maent hwŷ am ymlynu wrth grefŷdd, pan fytho hi mewn dirmŷg a diystyrwch; And yr wŷf inneu am lynu wrthi pan fytho hi 'n rhodio in eu gwisg euraid, a'r Haul in Llewyrchu arni, a'r hôll Bobl in ei chlodfori.
Neilltuol-fwriad. Yr oeddent hwŷ yn ôl eu pengaledrwŷdd, yn barnu mai eu dyledswŷdd hwŷ ydoedd i deithio drwŷ bôb tywŷdd, a minneu wŷf yn disgwŷl am wŷnt a Llanw, Y maent hwŷ am fentro y cwbl ôll ar a feddont dros Dduw mewn munŷd, a minneu ydwŷf yn diswŷl pôb odfa i siccrhau fy enioes, a'm golud; I maent hwŷ am ddadlu eu crefŷdd, pe byddei'r hôll Fŷd yn eu herbŷn; Ond rwŷf innau am grefŷdd cŷn ⟨p. 124⟩belled, ac a bytho'r amseroedd, a'm diogelwch sy hun yn rhoddi lle i hynnŷ; I maent hwŷ am ymlynu wrth grefŷdd, pan fytho hi mewn dirmŷg a diystyrwch; Ond yr wŷf inneu am lynu wrthi pan fytho hi 'n rhodio yn eu gwisg euraid, a'r Haul yn Llewyrchu arni, a'r hôll Bobl yn ei chlodfori.
Awuddy Bŷd. Dâ jawn a gwnewch chwi Meistir Neilltuol-fwriad, os parhewch fellu hŷth; Canŷs i'm tŷb i mae'r Dŷn hwnnw in ynfŷd, yr hwn a gŷll ei feddlannau, pan allo eu cadw nhwŷ; byddwn doeth fell Sarph; Da cweirio'r Gwair tra fo'r Haul in llewŷrchu; Chwi a welwch fell a mae'r wenynen in llechu in y gaiaf, ac in llafurio in unig pan allo hi gael ennill gyda phleser; I mae Duw in rhoddi glaŵ weithiau, a Thegwch weithiau; Os bŷdd neb mor ynfŷd a mined trwŷ'r dymhestl, gadewch iddo fined; Etto o'n rhan ein hunain, gadewch i ni fôd in fodlon ei orphwŷs hŷdoni chaffom y tywŷdd un dêg, a'r hîn in dawel; O'm rhan i, yr wŷfi 'n caru 'r Grefŷdd honno in oreu ar a safo gyda'r siccrwŷdd mwŷaf, a bŷdd i ni feddiannu y bendithion a rod yr Arglwŷdd i ni; Canŷs i mae 'n hawdd i ni deal (onid ŷm ni wedi gwallgofi) a mŷn Duw i ni gadw er ei fwŷn ef, yr hôll bethau daionus a gawsom oddiwrtho; I'n cynnal ni in y Bŷd hwn; Abraham a Solomon a ymgyfoethogasant er eu bôd in grefyddol; Ac mae Eliphaz in dywedŷd a rhŷdd Gŵr dâ aur i gadw fell llŵch (