A30210:527
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Chwant yr Arian. Rwi'n deal eich meddwl in eglur; A thrwŷ gennad y pendefigion ymma, myfi a wnâf fy ngoreu i roddi atteb i'ch cwestiwn; Am y Crefftwr, Bwriwch nad oes gan Grefftwr and ychydig iw gynnal ei hun in y Bŷd; And trwŷ ddyfod i broffesu crefŷdd, fe a eill gael odfa i wellhau ei gyflwr; Nail a'i trwŷ gael gwraig gyfoethog, neu trwŷ ennill mwŷ, a gwell prynwŷr iw Siop; O'm rhan i, nid wŷf in gweled Rheswm in y Bŷd, nas gellir gwneuthur hŷn in gyfreithlon; Canŷs In gyntaf, Rhinwedd ŷw bôd in grefyddol, trwŷ ba fôdd bynnag a delo dŷn i fôd fellu; In ail, Nid ŷw'n anghyfreithlon i geisio Gwraig gyfoethog, neu fwŷ o gwsmeriaid iw Siop; In drydŷdd, Heblaw hynnŷ, i mae'r Gŵr a ennillo'r pethau hŷn, trwŷ fôd in grefyddol, in ennill yr hŷn fŷ'n ddâ oddiwrth y sawl sŷdd ddâ, trwŷ ddyfod ei hun i fôd in ddâ; Fellu dymma ⟨p. 126⟩wraig ddâ, Cwsmeriaid dâ, ac Elw dâ, a'r rhain i gŷd wedi eu hynnill, trwŷ ddyfôd i broffesu crefydd, yr hŷn sŷdd beth dâ; Ac am hynnŷ, gwaith dâ a buddiol ydŷw bôd in grefŷddol, er mwŷn ennill yr hôll bethau ymma.
Chwant yr Arian. Rwi'n deall eich meddwl yn eglur; A thrwŷ gennad y pendefigion ymma, myfi a wnâf fy ngoreu i roddi atteb i'ch cwestiwn; Am y Crefftwr, Bwriwch nad oes gan Grefftwr ond ychydig iw gynnal ei hun yn y Bŷd; Ond trwŷ ddyfod i broffesu crefŷdd, fe a eill gael odfa i wellhau ei gyflwr; Naill a'i trwŷ gael gwraig gyfoethog, neu trwŷ ennill mwŷ, a gwell prynwŷr iw Siop; O'm rhan i, nid wŷf yn gweled Rheswm yn y Bŷd, nas gellir gwneuthur hŷn yn gyfreithlon; Canŷs Yn gyntaf, Rhinwedd ŷw bôd yn grefyddol, trwŷ ba fôdd bynnag a delo dŷn i fôd fellu; Yn ail, Nid ŷw'n anghyfreithlon i geisio Gwraig gyfoethog, neu fwŷ o gwsmeriaid iw Siop; Yn drydŷdd, Heblaw hynnŷ, i mae'r Gŵr a ennillo'r pethau hŷn, trwŷ fôd yn grefyddol, yn ennill yr hŷn fŷ'n ddâ oddiwrth y sawl sŷdd ddâ, trwŷ ddyfod ei hun i fôd yn ddâ; Fellu dymma ⟨p. 126⟩wraig ddâ, Cwsmeriaid dâ, ac Elw dâ, a'r rhain i gŷd wedi eu hynnill, trwŷ ddyfôd i broffesu crefydd, yr hŷn sŷdd beth dâ; Ac am hynnŷ, gwaith dâ a buddiol ydŷw bôd yn grefŷddol, er mwŷn ennill yr hôll bethau ymma.
Wedi i Chwant yr Arian. roddi'r atteb hwn i Gwestiwn Meistir Neilltuol fwriad, hwŷ a ganmolasant ei Atteb ef in ddirfawr, ac a farnasant fôd y cwbl a lefarodd ef in dra buddiol a jachus; Ac oblegid eu bôd nhwŷ'n tybied, nad oedd nêb a alleu ddywddŷd dim in wrthwŷnebus ir atteb ymma; Ac o herwŷdd fôd Cristion a Gobeithiol o fewn clŷw, hwŷ a gyttunasant in un frŷd, cŷn gynted ag a byddai iddŷnt eu goddiwes, i osod y cwestiwn hwn iddŷnt; In enwedig oblegid iddŷnt hwŷ or blaen wrthwŷnebu Meistir Neilltuol-fwriad in y matterion ymma; Fellu hwŷ a alwasant ar y Pererinod, a hwŷthau a safasant in yr unman, hŷdoni ddaeth y lleill hŷd attŷnt; And wrth ddyfod tuag attŷnt, hwŷ a gyttunasant may nid Meistir Neilltuol-fwriad, and yr hên ŵr Meistir Awudd y Bŷd, a gay ofŷn y cwestiwn iddŷnt, o herwŷdd eu bôd nhwŷ in tybied a byddent dynnerach wrtho ef, ac nas byddent mor danbaid ac a buant ychydig or blaen, wrth ymadel a Neilltuol-fwriad.
Wedi i Chwant yr Arian. roddi'r atteb hwn i Gwestiwn Meistir Neilltuol fwriad, hwŷ a ganmolasant ei Atteb ef yn ddirfawr, ac a farnasant fôd y cwbl a lefarodd ef yn dra buddiol a iachus; Ac oblegid eu bôd nhwŷ'n tybied, nad oedd nêb a alleu ddywddŷd dim yn wrthwŷnebus ir atteb ymma; Ac o herwŷdd fôd Cristion a Gobeithiol o fewn clŷw, hwŷ a gyttunasant yn un frŷd, cŷn gynted ag a byddai iddŷnt eu goddiwes, i osod y cwestiwn hwn iddŷnt; Yn enwedig oblegid iddŷnt hwŷ or blaen wrthwŷnebu Meistir Neilltuol-fwriad yn y matterion ymma; Fellu hwŷ a alwasant ar y Pererinod, a hwŷthau a safasant yn yr un man, hŷdoni ddaeth y lleill hŷd attŷnt; Ond wrth ddyfod tuag attŷnt, hwŷ a gyttunasant mai nid Meistir Neilltuol-fwriad, ond yr hên ŵr Meistir Awudd y Bŷd, a gai ofŷn y cwestiwn iddŷnt, o herwŷdd eu bôd nhwŷ yn tybied a byddent dynnerach wrtho ef, ac nas byddent mor danbaid ac a buant ychydig or blaen, wrth ymadel a Neilltuol-fwriad.
Fellu hwŷ a ddaethant hŷd attŷnt; Ac wedi iddŷnt gyfarch gwell iw gilŷdd, Awudd y Bŷd a osododd y cwestiwn ger bron Cristion a'i gydymaith, gan ddymuno arnŷnt ei atteb os gallent.
CRITSION. Ina ebŷr Cristion, fe all paban mewn crefŷdd atteb deng Mîl o'r fâth Gwestiwnnau a'r rhain; Canŷs gan ei bôd hi yr awron fell yr oedd hi gŷnt, in anghyfreithlon i ddilin Christ am y Torthau bara (Joan 6.) Pa faint mwŷ ffiaidd ydŷw ei wneuthur ef a chrefŷdd i fôd megis ⟨p. 127⟩March cynfas, i ennill a mwŷnhau'r Bŷd? Ac ni bn nêb and Cenhedloedd, Rhagrithwŷr, Diawlaid, a Swŷnwŷr, o'r meddwl hwn.
CRITSION. Yna ebŷr Cristion, fe all paban mewn crefŷdd atteb deng Mîl o'r fâth Gwestiwnnau a'r rhain; Canŷs gan ei bôd hi yr awron fel yr oedd hi gŷnt, yn anghyfreithlon i ddilin Crist am y Torthau bara (Joan 6.) Pa faint mwŷ ffiaidd ydŷw ei wneuthur ef a chrefŷdd i fôd megis ⟨p. 127⟩March cynfas, i ennill a mwŷnhau'r Bŷd? Ac ni bn nêb ond Cenhedloedd, Rhagrithwŷr, Diawlaid, a Swŷnwŷr, o'r meddwl hwn.
In gyntaf, Cenhedloedd, Canŷs pan ewŷllysiai Hamor a Shechem gael Merch ac anifeiliaid Jacob, a phan welsant nad oedd môdd in y Bŷd iw mwŷnhau hwŷnt, and trwŷ dderbŷn yr Enwaediad; Hwŷ a ddywedasant wrth en cyfeillion, Os enwaedir ein hôll wrwod ni fell a maent hwŷ wedi eu henwaedu, oni fŷdd eu hanifeiliaid, a'u cyfoeth, a'u hôll yscrubliaid hwŷnt in eiddom ni? Y Ferch a'r Annifeiliaid oedd y cwbl yr oeddent hwŷ in eu ddisgwŷl amdanŷnt, a'u Crefŷdd oedd y march-cynfas a arferasant iw mwŷnhau hwŷnt (Genesis 34.20. &c.)
Yn gyntaf, Cenhedloedd, Canŷs pan ewŷllysiai Hamor a Shechem gael Merch ac anifeiliaid Jacob, a phan welsant nad oedd môdd yn y Bŷd iw mwŷnhau hwŷnt, ond trwŷ dderbŷn yr Enwaediad; Hwŷ a ddywedasant wrth en cyfeillion, Os enwaedir ein hôll wrwod ni fel a maent hwŷ wedi eu henwaedu, oni fŷdd eu hanifeiliaid, a'u cyfoeth, a'u hôll yscrubliaid hwŷnt yn eiddom ni? Y Ferch a'r Annifeiliaid oedd y cwbl yr oeddent hwŷ yn eu ddisgwŷl amdanŷnt, a'u Crefŷdd oedd y march-cynfas a arferasant iw mwŷnhau hwŷnt (Genesis 34.20. &c.)
In Ail, Y Phariseaid rhagrithiol oeddŷnt hefŷd o'r Grefŷdd ymma, canŷs tan rîth her weddio, eu diben hwŷ oedd i lwŷr fwŷdta tal gwragedd gweddwon, Ac am hynnŷ a bygwthiodd Christ nhw a damnedigaeth mwŷ creulon na damnedigaeth trosseddwŷr eraill (Luc 20.47.)
Yn Ail, Y Phariseaid rhagrithiol oeddŷnt hefŷd o'r Grefŷdd ymma, canŷs tan rîth hir weddio, eu diben hwŷ oedd i lwŷr fwŷdta tal gwragedd gweddwon, Ac am hynnŷ a bygwthiodd Crist nhw a damnedigaeth mwŷ creulon na damnedigaeth trosseddwŷr eraill (Luc 20.47.)
In drydŷdd, Yr oedd Judas y Cythrael hefŷd o'r Grefŷdd ymma; 'Roedd ef in Grefyddol er mwŷn y gôd, Gan obeithio a gallai ef trwŷ hynnŷ feddiannu yr arian oedd in y pwrs; And ese a gollwŷd, ac a swriwŷd ymaith, ac yr oedd ef in wîr fâb i'r golledigaeth.
Yn drydŷdd, Yr oedd Judas y Cythrael hefŷd o'r Grefŷdd ymma; 'Roedd ef yn Grefyddol er mwŷn y gôd, Gan obeithio a gallai ef trwŷ hynnŷ feddiannu yr arian oedd yn y pwrs; Ond ese a gollwŷd, ac a swriwŷd ymaith, ac yr oedd ef yn wîr fâb i'r golledigaeth.
In bedwaredd, Seimon y Swŷnwr oedd hefŷd o'r grefŷdd ymma, Canŷs efe a fynnai gael yr Ysprŷd glân fell a gallai wneuthur elw o hono, a'i farn o eneu Peter oedd in ôl hynnŷ (▪ Actau 8.18. &c.)
Yn bedwaredd, Seimon y Swŷnwr oedd hefŷd o'r grefŷdd ymma, Canŷs efe a fynnai gael yr Ysprŷd glân fel a gallai wneuthur elw o hono, a'i farn o eneu Peter oedd yn ôl hynnŷ (▪ Actau 8.18. &c.)
In bummed, Ac nis gallaf dybied lay, nas gwerth hwnnw ei Grefŷdd am y Bŷd, yr hwn a'i proffesodd hi er mwŷn y Bŷd; Canŷs cŷn siccred ac yr oedd Suddas in amcanu ennill arian trwŷ fôd in grefyddol, mor siccir a gwerthodd ef grefŷdd, ⟨p. 128⟩a'i Feistir am arian; Ac o roddi atteb i'ch cwestiwn, gwŷbyddwch hŷn, pe dywedwn i gyda chwi in y matter ymma, may da a gelid fy ngalw i megis a gellir galw pôb un o honoch chwithieu in Bagan, in Rhagrithiwr, ac in Gythrael, y rhain a bŷdd eu cyflog iddŷnt in ôl eu gweithredoedd.
Yn bumed, Ac nis gallaf dybied llai, nas gwerth hwnnw ei Grefŷdd am y Bŷd, yr hwn a'i proffesodd hi er mwŷn y Bŷd; Canŷs cŷn siccred ac yr oedd Suddas yn amcanu ennill arian trwŷ fôd yn grefyddol, mor siccir a gwerthodd ef grefŷdd, ⟨p. 128⟩a'i Feistir am arian; Ac o roddi atteb i'ch cwestiwn, gwŷbyddwch hŷn, pe dywedwn i gyda chwi yn y matter ymma, mai da a gellid fy ngalw i megis a gellir galw pôb un o honoch chwithieu yn Bagan, yn Rhagrithiwr, ac yn Gythrael, y rhain a bŷdd eu cyflog iddŷnt yn ôl eu gweithredoedd.
Ina hwŷ a safasant in sŷnn, gan lygadrythu y nail ar y llall, Ac nid allent hwŷ roddi atteb in y Bŷd i Gristion ynghŷlch y peth ymma; Gobeithi•• hefŷd a ymfodlonodd in yr hŷn a lefarodd Cristion wrthŷnt: Ac fellu a bu distawrwŷdd mawr in eu plith hwŷ: Ar hŷn Meistir Neilltuol-fwraid a'i gymdeithion a safasant in ôl, fell a gallai Cristion a Gobeithiol gael y blaen arnŷnt, am eu bôd in chwennychu cael gwared o'u cwmpeini; Ina ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, Oni all y gwŷr hŷn sefŷli oflaen barn dynnion, pa fôdd a safant hwŷ oflaen Duw in y farn? Ac os ydŷnt in fudion pan eu teimler gan lestri pride, pa beth a wnant pan geryddir hwŷnt a fflamm•• o dân ysol?
Yna hwŷ a safasant yn sŷnn, gan lygadrythu y naill ar y llall, Ac nid allent hwŷ roddi atteb yn y Bŷd i Gristion ynghŷlch y peth ymma; Gobeithi•• hefŷd a ymfodlonodd yn yr hŷn a lefarodd Cristion wrthŷnt: Ac fellu a bu distawrwŷdd mawr yn eu plith hwŷ: Ar hŷn Meistir Neilltuol-fwraid a'i gymdeithion a safasant yn ôl, fel a gallai Cristion a Gobeithiol gael y blaen arnŷnt, am eu bôd yn chwennychu cael gwared o'u cwmpeini; Yna ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, Oni all y gwŷr hŷn sefŷli oflaen barn dynnion, pa fôdd a safant hwŷ oflaen Duw yn y farn? Ac os ydŷnt yn fudion pan eu teimler gan lestri pridd, pa beth a wnant pan geryddir hwŷnt a fflamm•• o dân ysol?
Ina Cristion a Gobeithiol a'u ••aenasant hwŷ drachefen, nes iddŷnt ddyfod i wastadedd hyfiŷd, yr hwn a elwid Esmwŷthdra: A hwŷ a deithiasant yno mewn hodlonrhwŷdd mawr: Ac am nad oedd y gwastadedd ymma and bychan jawn, hwŷ a aethant droslo in fŷan; Yr awron yr oedd ynghwrr eithar y Gwastadedd hwn frŷn bychan a elwid Elw▪ Ac in y brŷn hwn yr oedd Mŵn arian; I welled yr hwn gwŷrdroefeu bagad in yr amser gŷnt, wrth fined heibio; O herwŷdd bôd y fâth leoedd in anaml jawn, And wrth fined in rhŷ agos at ymmŷl y pwll: Y tîr gan ei fôd in dwŷllodrus odditanŷnt a dorrodd, a hwŷthau a ddifethwŷd, Ac eraill o honŷnt a ddaethant ymaith in anafus, y rhai ni lwŷr jachawŷd hŷd ddŷdd eu marwolaeth.
Yna Cristion a Gobeithiol a'u ••aenasant hwŷ drachefen, nes iddŷnt ddyfod i wastadedd hyfiŷd, yr hwn a elwid Esmwŷthdra: A hwŷ a deithiasant yno mewn hodlonrhwŷdd mawr: Ac am nad oedd y gwastadedd ymma ond bychan iawn, hwŷ a aethant droslo yn fŷan; Yr awron yr oedd ynghwrr eithar y Gwastadedd hwn frŷn bychan a elwid Elw▪ Ac yn y brŷn hwn yr oedd Mŵn arian; I weled yr hwn gwŷrdroefeu bagad yn yr amser gŷnt, wrth fyned heibio; O herwŷdd bôd y fâth leoedd yn anaml iawn, Ond wrth fyned yn rhŷ agos at ymmŷl y pwll: Y tîr gan ei fôd yn dwŷllodrus odditanŷnt a dorrodd, a hwŷthau a ddifethwŷd, Ac eraill o honŷnt a ddaethant ymaith yn anafus, y rhai ni lwŷr iachawŷd hŷd ddŷdd eu marwolaeth.
Ina gwelwn in fy Mreuddwŷd ychydig dross y ford, ar gyfer y Mŵn glawdd arian, Demas in sefŷll fell gŵr Bonheddig, i alw trafaelwŷr i droi tuag yno; Ac fe a ddywedodd wrth Cristion a'i gydymaith; Ho, Trowch ymma, Ac myfi a ddangosaf i chwi rŷw beth godidawg (2 Timotheus 4.10.)
Yna gwelwn yn fy Mreuddwŷd ychydig dros y ffordd, ar gyfer y Mŵn glawdd arian, Demas yn sefŷll fel gŵr Bonheddig, i alw trafaelwŷr i droi tuag yno; Ac fe a ddywedodd wrth Cristion a'i gydymaith; Ho, Trowch ymma, Ac myfi a ddangosaf i chwi rŷw beth godidawg (2 Timotheus 4.10.)
CRITSION. Pa beth sŷdd in ill yna mor odidawg, ar a allay ein hudo ni i droi oddiar y ford iw welled?
CRITSION. Pa beth sŷdd yn y lle yna mor odidawg, ar a allai ein hudo ni i droi oddiar y ffordd iw weled?
Demas. Dymma Fŵn arian, a rhai in cloddio yntho am Drysor; Os dowch chwi ymma Chwi a ellwch ymgyfoethogi wrth gymmerŷd ychydig o boen.
Demas. Dymma Fŵn arian, a rhai yn cloddio yntho am Drysor; Os dowch chwi ymma Chwi a ellwch ymgyfoethogi wrth gymmerŷd ychydig o boen.
Gobeithiol. Ina ebŷr Gobeithiol own i welled y peth ymma.
Gobeithiol. Yna ebŷr Gobeithiol awn i weled y peth ymma.
CRISTION. Naga fi ddim ebŷr Cristion; Myfi a glywais sôn am ill ymma cŷn hŷn, a pha rifedi a ddifethwŷd ymma; Ac heblaw hŷn, mae'r Trysor accw un fagl i'r rhai sŷ'n ei geisio ef; Canŷs i ma• •f in eu rhwŷstro nhwŷ in eu Pererindod; Ina Cristion a alwodd ar Demas, gan ddywedŷd wrtho, onid ŷw'r lle yna in beryglus.
CRISTION. Naga fi ddim ebŷr Cristion; Myfi a glywais sôn am y lle ymma cŷn hŷn, a pha rifedi a ddifethwŷd ymma; Ac heblaw hŷn, mae'r Trysor accw vn fagl i'r rhai sŷ'n ei geisio ef; Canŷs i ma• •f yn eu rhwŷstro nhwŷ yn eu Pererindod; Yna Cristion a alwodd ar Demas, gan ddywedŷd wrtho, onid ŷw'r lle yna yn beryglus.